Cwmpas yn cefnogi Grŵp Cyfryngau a Digwyddiadau Orchard i newid i Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan y Gweithwyr

4 Rhagfyr 2024

Mae Cwmpas yn hynod falch fod y cwmni arobryn o Gaerdydd, Grŵp Cyfryngau a Digwyddiadau Orchard, wedi newid yn llwyddiannus i fod yn Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan y Gweithwyr, ar ôl cael cefnogaeth gan Cwmpas a’i bartneriaid.

Mae Grŵp Cyfryngau Orchard wedi darparu gwasanaethau cyfathrebu creadigol i gleientiaid proffil uchel, yn cynnwys Admiral Group, Netflix, BBC, Aston Martin a Qatar Airlines ers 14 mlynedd.

Cwmpas yw’r asiantaeth ddatblygu gydweithredol fwyaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n darparu cyngor a chymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’i anelu at newid y ffordd y mae ein heconomi a’n cymdeithas yn gweithio.

Mae Perchnogaeth gan y Gweithwyr (EO) yn un o’r modelau busnes sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig, yn hybu gwydnwch a phroffidioldeb busnes, ac yn sicrhau ymrwymiad gan y gymuned a’r gweithwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddyblu nifer y busnesau a berchnogir gan weithwyr yng Nghymru erbyn diwedd tymor hwn y Senedd. Trwy waith caled ein tîm bach dan berchnogaeth gweithwyr yn Cwmpas, cyflawnwyd y targed hwn ddwy flynedd ynghynt na’r disgwyl.

Bu Ymgynghorydd Busnes Cwmpas, Paul Cantrill, yn gweithio’n agos gyda Grŵp Cyfryngau  Orchard, yn darparu cyngor a chymorth arbenigol a ariennir yn llawn trwy wasanaeth Perchnogaeth Gweithwyr Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae newid i fodel busnes newydd yn benderfyniad enfawr, ond mae tîm Perchnogaeth Gweithwyr Cwmpas yn hynod brofiadol o ran rheoli’r broses gyfan.

Wrth roi sylwadau ar y newid, dywedodd Paul Cantrill:

“Mae wedi bod yn bleser cynghori a phartneru â Grŵp Cyfryngau Orchard yn ystod eu cyfnod o newid i’r model perchnogaeth gweithwyr a gweithio ochr yn ochr â phartneriaid treth arbenigol yn Geldards i drosglwyddo’r berchnogaeth.

“Mae perchnogaeth gweithwyr yn gallu cael effaith fawr ar gynaliadwyedd busnes, gan roi manteision pendant i weithwyr gweithgar, a chadw cyfoeth o fewn cymunedau.”

Ar ddiwrnod Perchnogaeth Gweithwyr ym mis Mehefin eleni, dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Gymraeg ar y pryd:

“Mae perchnogaeth gweithwyr yn cynnig llu o fuddion i weithwyr a busnesau, fel ei gilydd, ac mae tystiolaeth yn dangos bod busnesau dan berchnogaeth gweithwyr yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy gwydn. Mae’r rhain yn lleoedd sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau, sy’n darparu swyddi hirdymor o ansawdd da ar gyfer yr ardal leol.

“Yn draddodiadol, dim ond dau i dri o gytundebau pryniant gan y gweithwyr sydd wedi digwydd bob blwyddyn yng Nghymru, ond mae’r model hwn wedi tyfu’n sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae cyflawni 74 busnes o’r fath yng Nghymru yn gyflawniad gwych, ac rwy’n edrych ymlaen at weld mwy yn y blynyddoedd i ddod.”

Dysgwch fwy am dîm Perchnogaeth Gweithwyr Cwmpas yma.