Cymunedau’n Creu Cartrefi: Sioe Deithiol yr Haf

17 Gorffennaf 2024

Yr haf hwn, mae’r tîm Cymunedau sy’n Creu Cartrefi wedi bod yn ymweld â chymunedau ledled Cymru i rannu straeon ysbrydoledig am dai dan arweiniad y gymuned. Yn ystod mis Mehefin, fe wnaethon ni gyfarfod â grwpiau, aelodau o’r gymuned a phobl â diddordeb yng Nghaergybi, Y Drenewydd, Caerfyrddin, a Phontypridd.

Roedd adfywio’r stryd fawr, tai, chapeli gwag, a chartrefi fforddiadwy i bobl ifanc, i gyd ar frig yr agenda. Ac er gwaethaf yr heriau gwirioneddol iawn y maent yn eu hwynebu, mae cymunedau o bob cornel o’r wlad yn dod at ei gilydd i weithredu a gyrru syniadau ymlaen ar gyfer newid yn eu hardaloedd lleol.

Gorffennaf 31ain byddwn yn Wrecsam. Ar hyn o bryd, yn Wrecsam, gall pobl sy’n prynu tŷ ddisgwyl iddo gostio dros 5.35 o’u henillion blynyddol, a bydd y rhai sy’n rhentu’n breifat yn talu tua £688 mis (ONS, 2024). Gall tai a arweinir gan y gymuned gynnig ateb creadigol!

Byddwn yn cynnal prynhawn ysbroledig yn Wrecsam Orffennaf 31ain – 2.30 – 4.30 – lle bydd arweinwyr cymunedol, eiriolwyr tai, a thrigolion yn ymgynnull ar gyfer digwyddiad cyffrous a llawn gwybodaeth sy’n canolbwyntio ar ddod ag unigolion a grwpiau at ei gilydd i archwilio atebion arloesol i heriau tai, a hyrwyddo twf prosiectau tai sy’n cael eu gyrru gan y gymuned. Gyda’n gilydd, gallwn greu cartrefi a chymunedau sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd a’n gweledigaeth a rennir. Archebwch tocyn am ddim yma.

Ble nesa? Enwebwch eich cymuned! Cysylltwch a ni os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal sesiwn wybodaeth yn eich tref neu bentref: co-op.housing@cwmpas.coop