Archway Vets yn adeiladu dyfodol cadarnhaol dan berchnogaeth gweithwyr
Archway yw’r practis milfeddygol cyntaf yng Nghymru i fynd yn eiddo i’r gweithwyr
Mae Canolfan Filfeddygol Archway, sydd â changhennau yng Nghas-gwent a Chil-y-coed, wedi trosglwyddo i fod yn fusnes sy’n eiddo i’r gweithwyr, y practis milfeddygol cyntaf i wneud hynny yng Nghymru.
Mae’r practis bellach yn eiddo i 26 o’i staff ac yn cael ei lywodraethu gan Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan Weithwyr. Mae Andrea Reynolds, sydd wedi bod yn un o gyfarwyddwyr y busnes ers 2011 – gan gymryd drosodd fel unig berchennog y practis anifeiliaid anwes yn 2014 – wedi gwerthu ei buddiant yn y busnes i Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan Weithwyr.
Bydd Andrea yn aros yn Archway fel un o dri Chyfarwyddwr clinigol, tra bod yna hefyd dri Chyfarwyddwr Ymddiriedol, gan gynnwys John McEwan a sefydlodd y practis yn wreiddiol, cyn ymddeol.
Eglurodd Andrea, a raddiodd fel milfeddyg yn 1996 ac a weithiodd o amgylch y DU ac Awstralia cyn ymgartrefu yng Nghas-gwent, ei rhesymau dros werthu’r practis i’w chydweithwyr: “Yn Ne Cymru, mae nifer fawr o Bractisau Milfeddygol wedi cael eu meddianu gan gorfforaethau ac roeddwn yn dod yn fwyfwy pryderus bod monopoli o’r cwmnïau hyn a chwmnïau ecwiti preifat yn cymryd drosodd practisau annibynnol bach yn effeithio ar ein diwydiant, a’r rhai sy’n gysylltiedig ag ef.
“Felly, pan oeddwn yn ystyried dyfodol y practis, roeddwn yn bendant y byddai ac y dylai Archway aros yn annibynnol ymhell ar ôl i’m stiwardiaeth ddod i ben.
“Rwyf bob amser wedi bod yn ymwybodol bod llwyddiant Practis Milfeddygol yn ddibynnol ar yr holl staff sy’n gweithio yno, a chredaf fod y model Perchnogaeth gan Weithwyr yn cydnabod ac yn gwobrwyo cyfraniad pob aelod o staff ac yn rhoi llais iddynt yn nyfodol y busnes. Dyna pam roedd yn ffordd berffaith i mi drosglwyddo’r Practis gan wybod ei fod ac y bydd yn aros gyda phobl rwy’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt.”
Ychwanegodd Andrea: “Rwyf wedi bod yn falch iawn o weithio gyda Cwmpas, sydd wedi ein cynghori a’n llywio bob cam o’r ffordd wrth sefydlu Canolfan Filfeddygol Archway fel busnes sy’n eiddo i’r gweithwyr, i ddal cyfranddaliadau ar ran gweithwyr presennol a darpar weithwyr a sicrhau bod dyfodol y practis mewn dwylo diogel.”
Cynghorwyd Andrea ar y trawsnewid i fod yn eiddo i’r gweithwyr gan Dîm Perchnogaeth gan Weithwyr Busnes Cymdeithasol Cymru, a ddarperir gan Cwmpas.
Dywedodd Derek Walker, Prif Weithredwr Cwmpas, a gefnogodd Archway, Andrea a’r tîm drwy’r broses bontio: “Mae cael busnes fel practis milfeddygol yn mynd at Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan Weithwyr yn dangos hyblygrwydd a buddion perchnogaeth gan weithwyr yn hytrach na gwerthu busnes i drydydd parti ac rydym yn falch o fod wedi cefnogi Archway i fod y cyntaf yng Nghymru i wneud hynny.
“Mae cynllunio ar gyfer olyniaeth yn beth anodd iawn i’w lywio ac mae Andrea wedi cydnabod bod gwerthu ei phractis i’w chydweithwyr trwy Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan Weithwyr yn golygu y bydd y busnes sy’n agos at ei chalon yn aros yn annibynnol ac y gall hefyd barhau i weithio yno.”
Dywedodd Eleanor Gough, Cyfarwyddwr sydd newydd ei phenodi yng Nghanolfan Filfeddygol Archway:
“Mae ein tîm yn ymroddedig iawn i hybu iechyd a lles anifeiliaid. Mae dod yn rhan o Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan Weithwyr wedi golygu ein bod yn gallu aros yn driw i ni ein hunain a diogelu ethos craidd ein practis am flynyddoedd i ddod.
“Ni allwn ofyn am well tîm i fynd â Chanolfan Filfeddygol Archway tuag at ddyfodol newydd disglair.”