Adroddiad Mapio Newydd yn Datgelu Twf ac Effaith Cryf Sector Menter Gymdeithasol Cymru

21 Hydref 2025

Mae adroddiad mapio cenedlaethol newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Cwmpas a’r Grŵp Randdeiliaid Mentrau Cymdeithasol wedi datgelu bod sector mentrau cymdeithasol Cymru yn parhau i dyfu o ran cryfder, graddfa ac effaith, gyda dros 3,100 o fusnesau cymdeithasol bellach yn weithgar ledled y wlad, gan gyfrannu hyd at £5.7 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn ac yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl a chymunedau. 

Mae’r adroddiad Mapio Busnesau Cymdeithasol 2025 yn cynnig y darlun mwyaf cynhwysfawr hyd yma o gyfraniad y sector i economi a chymunedau Cymru. Mae’n dangos bod nifer y mentrau cymdeithasol wedi cynyddu 13% ers 2022 ac, gyda’i gilydd, bod y sefydliadau hyn yn cyflogi rhwng 57,000 a 68,000 o bobl, gyda chefnogaeth gan 59,000–64,000 o wirfoddolwyr pellach. 

Mae data eleni hefyd yn dangos sector sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yng nghymunedau Cymru, gyda’r crynodiad mwyaf o fentrau cymdeithasol i’w gweld mewn ardaloedd sy’n wynebu’r heriau cymdeithasol ac economaidd mwyaf, lle maent yn chwarae rhan hanfodol wrth greu swyddi lleol, cefnogi lles ac adeiladu gwytnwch cymunedol. 

Sector Bywiog a Seiliedig ar Werthoedd gyda Effaith Mesuradwy 

Mae’r adroddiad yn portreadu mudiad bywiog ac amrywiol: o brosiectau ynni cymunedol i adfywio canol trefi, darparu gweithgareddau llesiant hanfodol i brosiectau adeiladu ar raddfa fawr – mae’r sector yn unedig gan genhadaeth gyffredin i gyflawni newid cadarnhaol. 

Mae gwella iechyd a lles yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i dros 80% o fentrau cymdeithasol, tra bod tair rhan o bedair yn gweithio i gryfhau eu cymunedau lleol. Mae bron hanner bellach yn canolbwyntio ar nodau amgylcheddol, gan gynnwys mynd i’r afael â newid hinsawdd a diogelu natur. 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn parhau i fod yn ddylanwad allweddol, gan siapio sut mae bron i 80% o fentrau cymdeithasol yn cynllunio ac yn gweithredu. Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod 66% o sefydliadau bellach yn gweld gweithredu ar y newid hinsawdd fel blaenoriaeth uchel neu hanfodol, gyda mwy na saith o bob deg wedi cyflwyno mesurau effeithlonrwydd ynni neu gynaliadwyedd. 

Mae mentrau cymdeithasol hefyd yn sefyll allan fel cyflogwyr teg a chynhwysol: 

  • 84% yn talu’r Cyflog Byw ; 
  • 58% gyda menyw fel eu harweinydd uchaf; 
  • 19% gyda o leiaf un arweinydd ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor; 
  • 80% yn cyflogi pobl leol sy’n byw o fewn 10 milltir i’w gweithle. 

Mae’r ffigurau hyn yn tanlinellu cyfraniad unigryw’r sector i waith teg, cydraddoldeb, a datblygiad economaidd lleol – gwerthoedd sydd wrth wraidd economi llesiant Cymru’r dyfodol. 

Gwydn, Arloesol ac Uchelgeisiol 

Er gwaethaf hinsawdd economaidd heriol, mae’r data mapio’n dangos sector sydd yn hyderus ynghylch ei ddyfodol. Mae dwy ran o dair o fusnesau’n disgwyl cynnydd mewn elw yn y tair blynedd nesaf, ac mae’r rhan fwyaf yn amrywio eu ffynonellau incwm, gyda symudiad cyson oddi wrth ddibyniaeth ar grantiau tuag at incwm masnachol. 

Cafodd rhwystrau clir i dwf eu nodi – mae mynediad at gyllid grant yn parhau i fod yn brif rwystr i dwf, gyda chapasiti marchnata a mynediad at gyllid hefyd yn cael eu hamlygu. Serch hynny, mae’r sector yn parhau’n fenterus iawn: datblygodd bron ddwy ran o dair o fentrau cymdeithasol gynhyrchion neu wasanaethau newydd yn y flwyddyn ddiwethaf, ac mae 28% wedi denu buddsoddiad i ehangu. 

Mae uchelgeisiau’r sector yn cyd-fynd â’i barodrwydd i arloesi, gyda nifer cynyddol yn masnachu ledled y DU ac yn addasu eu modelau busnes i fynd i’r afael â heriau hinsawdd, digidol a chymdeithasol. 

Astudiaeth Achos 

Enghraifft wych o fenter gymdeithasol ffyniannus yng Nghymru yw Down to Earth, enillydd gwobr Menter Gymdeithasol y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2025. Dywedodd Mark McKenna, cyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr: 

“Mae Down to Earth yn mynd i’r afael â rhai o heriau amgylcheddol mwyaf ein hoes drwy gyd-ddylunio a chyd-greu cartrefi, ysgolion ac ysbytai gan ddefnyddio dim ond dylunio a deunyddiau sy’n canolbwyntio ar natur. 

“Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi gweithio gyda dros 1,800 o gyfranogwyr o gefndiroedd agored i risg neu ar y cyrion cymdeithasol i gyflwyno rhaglenni iechyd ac addysg, ac i greu newidiadau anhygoel yn eu bywydau a’u cymunedau. 

“Roedden ni wrth ein bodd o gael ein henwebu ar gyfer Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru – ac rydym yn hynod falch o ennill Menter Gymdeithasol y Flwyddyn. Gobeithio y bydd yr anrhydedd hwn yn ein galluogi i wneud mwy o waith ac i gael hyd yn oed mwy o effaith yn y dyfodol.” 

Sector Strategol yn Barod i Gyflawni Mwy 

Gyda’r data mapio’n darparu sail dystiolaeth fanwl, mae mudiad mentrau cymdeithasol Cymru — drwy’r Grŵp Randdeiliaid Mentrau Cymdeithasol — wedi gosod gweledigaeth glir ac unedig ar gyfer y dyfodol. Ymhlith ei flaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru mae: 

  • Ehangu cymorth busnes arbenigol wedi’i deilwra i’r model menter gymdeithasol 
  • Buddsoddiad mewn datblygu marchnadoedd gweithredol 
  • Parhau ac ehangu ffrydiau cyllid pwrpasol sy’n adlewyrchu modelau ariannol cymysg busnesau cymdeithasol 
  • Diwygio caffael i wreiddio adeiladu cyfoeth cymunedol a gwerth cymdeithasol ar draws y sector cyhoeddus 
  • Deddf Perchnogaeth ac Grymuso Cymunedol i roi’r hawl a’r adnoddau i gymunedau amddiffyn a chymryd drosodd asedau lleol – o dafarnau a siopau i leoedd gwyrdd 
  • Addysg menter gymdeithasol i’w wreiddio yn ein hysgolion, colegau a phrifysgolion er mwyn meithrin cenhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid cymdeithasol Cymreig 

Dywedodd Bethan Webber, Prif Weithredwraig Cwmpas: 

“Mae’r adroddiad mapio newydd hwn yn darlunio mudiad ffyniannus, uchelgeisiol ac effeithiol sy’n helpu i adeiladu Cymru decach a gwyrddach. 

Mae mentrau cymdeithasol yn darparu gwasanaethau hanfodol, yn creu swyddi da, yn mynd i’r afael â newid hinsawdd ac yn cadw cyfoeth o fewn cymunedau ledled y wlad. Maent yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fo busnes yn cael ei yrru gan ddiben, nid elw yn unig. 

Yn Cwmpas, rydym yn falch o weithio ochr yn ochr â’r sector anhygoel hwn, gan ddod â’n hangerdd, ein harbenigedd a’n partneriaethau i’w helpu i fynd ymhellach ac yn gyflymach. Gyda’r gefnogaeth gywir gan Lywodraeth Cymru nesaf, gallwn datgloi hyd yn oed mwy o botensial a gwneud Cymru’n y lle gorau yn y byd i ddechrau a thyfu menter gymdeithasol.”