Cynhadledd Busnes Cymdeithasol Cymru 2023
Ein Dyfodol: Planed, Gymuned, a’r Hunan, yw’r gynhadledd a gyflwynir gan Busnes Cymdeithasol Cymru yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, gyda’r bwriad penodol o ddarparu ysbrydoliaeth, syniadau, a sgiliau ymarferol i fusnesau cymdeithasol yng Nghymru – a fydd yn eich galluogi i a bod yn fwy cynaliadwy.
Bydd y gynhadledd hon yn darparu amgylchedd ar gyfer cyfnewid gwybodaeth, rhannu arfer gorau a rhwydweithio o fewn y sector; annog arloesi; a darparu cyfleoedd i ddysgu oddi wrth y sector preifat a chyhoeddus a meithrin partneriaethau gyda nhw.
Bydd gweithdai yn cynnwys: Grymuso a Lles, Cyllid Cymdeithasol, Sero Net, Costau Byw, a Recriwtio Cyfarwyddwyr.
Rydym yn cynnig cynllun bwrsariaeth i gefnogi mynychwyr o gymunedau a chefndiroedd amrywiol i fynychu’r gynhadledd, e-bostiwch elin.evans@cwmpas.coop am fwy o wybodaeth.