Dysgu a Datblygu
Fel Buddsoddwr Lefel Aur mewn Pobl, rydyn ni wedi ymrwymo i’ch dysgu a’ch datblygiad, ac yn Cwmpas mae hynny’n dechrau cyn i chi gyrraedd hyd yn oed!
Rydyn ni am i chi gyrraedd eich potensial llawn ac mae gennym ni amrywiaeth o lwybrau i sicrhau bod hynny’n digwydd. I ni, dyw dysgu a datblygu ddim yn ymwneud â mynychu cyrsiau hyfforddi yn unig o reidrwydd, ond mae’n daith barhaus i gyflawni eich nodau o ran gyrfa.
Mae ein rhaglen ddysgu a datblygu’n dechrau gyda chynllun cynefino wedi’i deilwra sy’n eich cyflwyno i’r sefydliad ac yn sicrhau eich bod yn deall pob un o’r prosiectau rydyn ni’n eu cyflawni yn llawn, eich lle chi yn y sefydliad a sut rydych chi’n cyfrannu at gyflawni amcanion y sefydliad. Bydd eich rheolwr yn siarad yn agored ac yn rheolaidd am eich nodau gyrfa a bydd yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i’w cyflawni.
Mae dysgu’n digwydd drwy ddulliau amrywiol gan gynnwys sesiynau rhannu gwybodaeth, mentora, hyfforddi, cysgodi swydd a chyfleoedd secondiad, yn ogystal â digwyddiadau hyfforddi wedi’u trefnu. Rydyn ni’n cefnogi cyrsiau achrededig sy’n gysylltiedig â gwaith hefyd er mwyn i staff ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.
Isod ceir tystebau gan ein staff am gamu ymlaen mewn gyrfa yn y busnes a sut mae Cwmpas wedi eu helpu i ddatblygu:
Laura – O Hyfforddwr i Reolwr Hyfforddi
Helo, Laura Phillips ydw i ac rwy’n un o Reolwyr Prosiect Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant. Ymunais â Cwmpas ym mis Awst 2017 am gyfnod penodol o 9 mis, ac rwy’n dal yma, flynyddoedd yn ddiweddarach!
Dechreuais yn Cwmpas fel Hyfforddwr ar gyfer Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru, ac rwyf wedi datblygu i fod yn Rheolwr Rhaglen, gan arwain ar allbynnau hyfforddi’r rhaglen. Fyddwn ni ddim wedi gallu gwneud hyn heb yr arweiniad ffurfiol ac anffurfiol, y mentora a’r gefnogaeth gan gydweithwyr ar draws y sefydliad. Rwyf wedi cael cyfle i gwblhau cymhwyster y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Sgiliau Arweinyddiaeth a Thîm. Roedd cael y cyfle i gwblhau’r cwrs hwn sydd wedi’i ariannu, yn ystod fy amser gwaith, yn gyfle i mi ystyried datblygiad fy ngyrfa, a rhoddodd gymhwyster i mi i’m helpu i gael dyrchafiadau yn y sefydliad.
Rwyf wedi cael fy mentora’n ffurfiol ac yn anffurfiol yma yn Cwmpas, a thrwy’r gefnogaeth a’r arweiniad hwnnw, rwyf wedi gallu tyfu a datblygu fel rheolwr newydd. Mae wedi rhoi’r sgiliau i mi allu tyfu’n hyderus yn fy rôl.
Glenn Bowen – O Weithiwr Datblygu Cymunedol i Gyfarwyddwr Menter
Helo, fy enw i yw Glenn ac rwyf wedi gweithio i Cwmpas ers 25 mlynedd a mwy. Dechreuais yn syth o’r coleg fel Gweithiwr Datblygu Cymunedol, gan helpu cymunedau ledled Cymoedd y De i sefydlu mentrau cymdeithasol newydd. Yn ystod fy ngyrfa, rwyf wedi dysgu sgiliau newydd gan gydweithwyr ac o hyfforddiant allanol a ddarperir gan Cwmpas, rwyf hefyd wedi cael cyfleoedd drwy secondiad i awdurdod lleol, lle llwyddais i ddysgu sgiliau newydd am reoli prosiectau, cyllid ac AD a dod â’r sgiliau hynny yn ôl i Cwmpas. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus o gael nifer o swyddi gan gynnwys Rheolwr Prosiect ac yn fwy diweddar fel Cyfarwyddwr Menter, sy’n golygu fy mod i’n rhan o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Mae cyfleoedd wedi bod ar gael bob amser yn Cwmpas i helpu pobl i dyfu a datblygu, ac yn ddiweddar rwyf wedi cwblhau rôl dros dro fel Prif Weithredwr Dros Dro wrth i ni recriwtio ein Prif Weithredwr parhaol newydd. Mae myfyrio ar fy amser yma a myfyrio ar fy siwrne yn gwneud i mi deimlo’n falch iawn o fod yn rhan o sefydliad sy’n cefnogi aelodau’r tîm ac yn eu helpu i dyfu.
David Madge – O Gynghorydd Datblygu’r Farchnad i Reolwr Prosiect
Helo, fy enw i yw David ac ar hyn o bryd fi yw Arweinydd Rhaglen Rhanbarthol Cwmpas. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael nifer o swyddi yn Cwmpas dros y degawd diwethaf. Ers 2011 rwyf wedi gweithio ar ddau brosiect a ariennir mewn rolau datblygu’r farchnad, rwyf wedi gweithio yn y tîm cyfathrebu ac yn fwyaf diweddar, fel rheolwr prosiect i Busnes Cymdeithasol Cymru. Ymhlith y rhesymau rwyf wedi aros gyda’r cwmni cyhyd yw ei ddiwylliant dysgu, ei ymrwymiad i hyfforddi staff a’i ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Rwyf wedi cael fy nghefnogi gyda’m hymrwymiad parhaus i gynnal statws Marchnatwr Siartredig (sy’n cynnwys gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus) ac rwyf wedi cael hyfforddiant sy’n berthnasol i bob un o’r rolau rwyf wedi’u cael, gan gynnwys cyrsiau mewn marchnata a rheoli prosiectau. Yn ddiweddar, rwyf wedi mynychu cyrsiau ar reoli pobl, lles a hyfforddiant a chefais fy newis hefyd i ddilyn cwrs trylwyr ar gynllunio gwasanaethau. Mae ymrwymiad Cwmpas i hyfforddiant a datblygiad wedi bod yn ffactor pwysig wrth ganiatáu i mi ddatblygu fy ngyrfa yn y cwmni.