Cynhwysiant Digidol Cymru

Cynhwysiant Digidol Cymru yw dull newydd Llywodraeth Cymru

o gynhwysiant digidol, a lansiwyd ym mis Mai 2025.

Cynhwysiant Digidol Cymru

Mae’n cynnwys dau linyn::

  • Rhaglen genedlaethol a gaffaelwyd
  • Cyllid aml-flwyddyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau grant a ddatblygwyd ac a ddarperir yn lleol.

Mae’r ddwy elfen yn cael eu rheoli a’u hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Cynhwysiant Digidol Cymru Rhaglen Genedlaethol
Mae Rhaglen Cynhwysiant Digidol Cymru (CDC), yn rhaglen genedlaethol newydd, tair blynedd a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru a’i darparu gan Cwmpas, mewn partneriaeth â Good Things Foundation a Phrifysgol Lerpwl.
A woman using a tablet device
Diben
Mae Rhaglen CDC yn canolbwyntio ar leihau allgau digidol ar draws Cymru ac yn cael ei gyflwyno’n unol â’r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol (MDLS). Bydd y rhaglen yn cefnogi sefydliadau a busnesau i sicrhau y caiff cynhwysiant digidol ei gydnabod a’i ymgorffori mewn polisi, dylunio gwasanaethau ac ymarfer dydd i ddydd.

Beth mae’r rhaglen yn ei gyflawni

Mae’r rhaglen wedi’i strwythuro o amgylch tri llinyn rhyng-gysylltiedig.

Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cenedlaethol

Pwynt cyswllt dwyieithog, canolog i sefydliadau a busnesau ledled Cymru, sy’n darparu cyngor, arweiniad a chymorth ymarferol rhagweithiol ac adweithiol i’w helpu i ddeall pam a sut mae angen iddynt ymgorffori cynhwysiant digidol mewn polisïau ac arferion. Mae hyn yn cynnwys:  

  • Cyngor, arweiniad a chefnogaeth wedi’i deilwra i’r sefydliadau a’r busnesau
  • Cefnogaeth i ymgorffori cynhwysiant digidol wrth ddylunio a chyflenwi cynnyrch
  • offer, adnoddau a fframwaith hunanasesu sy’n cyd-fynd â’r MDLS

Mapio & Thystiolaeth 

Mapio cynhwysfawr o weithgareddau, darpariaeth a chyllid cynhwysiant digidol ledled Cymru er mwyn: 

  • galluogi sefydliadau a busnesau i adnabod gweithgareddau, cymorth a chyllid perthnasol a chyfeirio pobl atynt
  • adnabod bylchau ac atebion, nodi gorgyffwrdd a chyfleoedd ar gyfer cydweithredu
  • gwella cydlynu cymorth cynhwysiant digidol ar lefel cenedlaethol
  • darparu mewnwelediadau i gefnogi sefydliadau a busnesau i ystyried yr ymyriadau sydd eu hangen
  • cyfrannu at adeiladu sylfaen dystiolaeth a rennir sydd wedi’i halinio â MDLS

Partneriaeth Gydweithredol (Cynghrair)

Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru cenedlaethol, sy’n dod â’r sectorau preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector at ei gilydd i rannu dysgu a sbarduno gweithredu ar y cyd ynghylch cynhwysiant digidol trwy:

  • gweithgorau gan gynnwys grwpiau â phrofiad byw
  • ymgysylltu rhanbarthol
  • rhannu dysgu, gwybodaeth ac arfer da
  • cyfleoedd i gyd-ddatblygu a darparu ymyriadau
  • Y cyfan gyda ffocws ar gyflawni canlyniadau mesuradwy a newid o ganlyniad uniongyrchol i aelodaeth o’r Gynghrair

Ni fydd Rhaglen CDC yn darparu hyfforddiant i staff rheng flaen, gwirfoddolwyr nac yn uniongyrchol i bobl.

Pam mae’n bwysig

Mae’n hanfodol cael y cymhelliant, mynediad, sgiliau digidol sylfaenol a’r hyder i ymgysylltu â thechnoleg ddigidol yn y gymdeithas heddiw. Ond mae allgáu digidol yn parhau i effeithio ar gymunedau ledled Cymru. Bydd Rhaglen CDC yn helpu sefydliadau a busnesau i ddeall sut olwg sydd ar gynhwysiant digidol yn ymarferol, sut y gallant gyfrannu at nodau cenedlaethol, a sut y gall yr MDLS weithredu fel fframwaith i yrru gwelliannau ystyrlon, hirdymor, gan gydnabod bod hyn yn gofyn am gydweithrediad traws-sector.

Mae cynhwysiant digidol yn sail i uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.

Cysylltu â ni

Os yw'ch sefydliad neu fusnes eisiau cryfhau eich ffordd o ymdrin â chynhwysiant digidol, gweithio gyda Rhaglen CDC, deall yr MDLS neu fod yn rhan o ymdrech genedlaethol gydgysylltiedig, cysylltwch â ni:

Cysylltu â ni
Mwy o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth am ganllawiau, gwasanaethau, polisi a chefndir cynhwysiant digidol, gan gynnwys MDLS, a dolenni i adnoddau ehangach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.   

Darganfod mwy
Cyllid Grant Cynhwysiant Digidol Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Grant Cynhwysiant Digidol Cymru i gefnogi sefydliadau a busnesau sy'n gweithio gyda phobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol neu sydd mewn perygl o allgáu digidol. Mae'r grant yn darparu cyllid craidd a chyllid arloesi i gryfhau gweithgarwch cynhwysiant digidol lleol ledled Cymru.

Gwahoddir ceisiadau o bob sector.

Mae rhagor o wybodaeth gan gynnwys canllawiau a ffurflenni cais ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mwy o wybodaeth