Interniaeth Cyfathrebu Cymunedau Digidol Cymru 2024

Interniaeth Cyfathrebu Cymunedau Digidol Cymru 2024

Cymunedau Digidol Cymru – Interniaeth cyfathrebu 2024 

Mae Cwmpas yn cynnig interniaeth tan 28 Mawrth 2025 gyda’i Gyfarwyddiaeth Cymunedau Cynhwysol.  Wedi’i leoli yn ein rhaglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles (CDC) ac yn gweithio’n agos gyda’n tîm Polisi a Chyfathrebu, nod yr interniaeth yw cael cipolwg ar effaith gweithgarwch cynhwysiant digidol a ddatblygwyd a’i gefnogi gan raglen CDC yng Nghymru ac i adrodd ar sut mae cynhwysiant digidol wedi effeithio ar unigolion a chymunedau. Byddwch yn cyfrannu at ddatblygu astudiaethau achos mewn amrywiaeth o wahanol ffurfiau cyfryngau.

Mae’r interniaeth hon ar gael i unrhyw un 18+ oed, ar unrhyw adeg yn eu gyrfa, fel cyfle i weithio gydag unig raglen cynhwysiant digidol cenedlaethol Cymru.

 Ein sefydliad

Mae Cwmpas yn asiantaeth ddatblygu sy’n gweithio dros newid cadarnhaol, yng Nghymru ac ar draws y DU. Rydyn ni’n gwmni cydweithredol ac rydym yn canolbwyntio ar adeiladu economi decach a gwyrddach a chymdeithas fwy cyfartal, lle mae pobl a’r blaned yn dod yn gyntaf.

Ein nod yw creu economi decach a gwyrddach trwy weithio i gynyddu cyfran yr economi sy’n cynnwys mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol a busnesau sy’n eiddo i weithwyr; cymdeithas fwy cyfartal trwy weithio i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol – cynyddu mynediad, tegwch, amrywiaeth a chyfranogiad; a sicrhau newid cadarnhaol trwy weithio gyda phobl a sefydliadau i weithredu er lles cymdeithasol.

Yn sail ein gwaith mae ymrwymiad i ddarparu cefnogaeth i bobl, cymunedau a busnesau mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd cydweithredol. Credwn fod y ffordd rydym yn gwneud pethau yr un mor bwysig a’r hyn a wnawn. Ysbrydolir ein gwerthoedd gan egwyddorion cydweithredol rhyngwladol ond maent wedi’u hysgrifennu yng ngeiriau ein staff. Dyma nhw:

  • Bod yn gyd-weithredol
  • Bod yn gefnogol
  • Bod yn deg
  • Bod yn onest
  • Bod yn gadarnhaol
  • Bod yn ysbrydoliaeth.

Fel sefydliad nid-er-elw, ariannir ein gwaith trwy gontractau a masnachu yn osgystal a chael ei gefnogi gan amrywiaeth o gyllidwyr gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

Gallwch ddarllen am ein meysydd gwaith yma, a gallwch ddarllen am yr effaith a wnawn yma.

Y cyfle

Cymunedau Digidol Cymru

Ffocws ac amcan CDC yw ymgorffori a phrif-ffrydio cynhwysiant digidol o fewn meysydd thematig gan sicrhau perchnogaeth o gynhwysiant digidol. Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n hollbwysig bod cynhwysiant digidol yn cael ei ymgorffori, ei brif-ffrydio a’i berchen gan sefydliadau a chymunedau ar draws Cymru. Nid cyfrifoldeb un sefydliad yw cynhwysiant digidol, ac ni ellir ei hyrwyddo gan un rhaglen yn unig. Mae’n gofyn am gydweithredu ac ymrwymiad gan rhanddeiliaid amrywiol, gan weithio gyda’n gilydd i greu cenedl yng Nghymru sy’n gynhwysol yn ddigidol sydd o fudd i bawb ac sy’n gadael neb ar ôl.

Wedi’i leoli yn ein rhaglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles (CDC) ac yn gweithio’n agos gyda’n tîm Polisi a Chyfathrebu, nod yr interniaeth yw cael cipolwg ar effaith gweithgarwch cynhwysiant digidol a ddatblygwyd a’i gefnogi gan raglen CDC yng Nghymru ac i adrodd ar sut mae cynhwysiant digidol wedi effeithio ar unigolion a chymunedau. Byddwch yn cyfrannu at ddatblygu astudiaethau achos mewn amrywiaeth o wahanol ffurfiau cyfryngau.

Beth yw’r nod?

Yn CDC rydyn ni’n gweithio’n thematig. Gwyddom mai’r ffordd orau o gyrraedd cymunedau sy’n profi allgáu digidol yw gweithio gyda’r wynebau a’r sefydliadau dibynadwy sy’n eu cefnogi’n uniongyrchol. Nod yr interniaeth hon yw cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd sgiliau digidol, hyder a mynediad i unigolion a chymunedau.

Mae’r rhaglen ar agor i unigolion gyda phrofiad byw  yn unol â meysydd thematig ein rhaglen. Rydym yn chwilio am bobl sydd â phrofiadau byw o’r cefndiroedd canlynol:

  • Pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol amrywiol
  • Pobl o gymunedau Sipsiwn, Roma, a Theithwyr
  • Pobl hŷn
  • Pobl ag anableddau neu gyflyrau gydol oes
  • Pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol
  • Pobl sy’n ofalwyr neu sydd wedi bod yn ofalwyr

Beth ydyn ni’n ei gynnig?

Byddwn yn cynnig interniaeth o fewn ein tîm Cymunedau Digidol Cymru, gan weithio ochr yn ochr â’n tîm Polisi a Chyfathrebu. Bydd yr interniaeth yn rhedeg tan ddydd Gwener, 28 Mawrth 2025.

Yn ddelfrydol, byddai’r interniaeth yn rôl llawn amser (35 awr yr wythnos), ond byddwn yn ystyried oriau gweithio rhan-amser (21-35 awr yr wythnos) os fydd hwn yn cefnogi ymrwymiadau eraill neu anghenion hygyrchedd. Bydd yn talu’r cyflog byw gwirioneddol ar gyfer y rôl hon, h.y. £12 yr awr (sy’n cyfateb i £12,840 y flwyddyn) pro-rata os gofynnir am oriau rhan-amser.

Bydd yr intern yn gweithio gartref gan ddefnyddio atebion digidol megis Microsoft Teams i gyfathrebu gydag aelodau’r tîm ac i reoli dogfennau gwaith. Byddwn yn darparu offer digidol iddynt allu gwneud hyn. Bydd cyfleoedd i dreulio amser gyda thîm ehangach Cymunedau Digidol Cymru mewn person ac ar-lein. Gellir archwilio i fannau cyd-weithio. Ble fydd angen teithio o fewn Cymru, bydd Cwmpas yn talu costau milltiroedd neu’n prynu tocynnau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus.

Bydd fyddwch chi’n ei wneud?

Wedi’ch lleoli yn ein tîm Cymunedau Digidol Cymru, byddwch yn cymryd rhan mewn estyn allan at ac ymgysylltu â phobl ledled Cymru sydd wedi cael eu heffeithio gan weithgarwch cynhwysiant digidol a ddatblygwyd gan raglen CDC neu a gefnogir ganddi.

Bydd hyn yn cynnwys deall y rhwystrau a’r agenda cynhwysiant digidol. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’n gweithgorau Thematig i ddeall y gwaith cynhwysiant digidol ar draws y meysydd hyn. Gan weithio’n agos gyda’n tîm Polisi a Chyfathrebu byddwch yn dal effaith gweithgarwch cynhwysiant digidol a ddatblygwyd gan raglen CDC yng Nghymru ac a gefnogir ganddi, ac yn adrodd hanes sut mae cynhwysiant digidol wedi effeithio ar unigolion a chymunedau. Byddwch yn ymwneud â datblygu astudiaethau achos mewn amrywiaeth o wahanol ffurfiau cyfryngau.

Gall diwrnod arferol gynnwys:

  • Deall ac ymchwilio i agenda gynhwysiant ac allgau digidol yn unol â’r gweithgorau thematig uchod.
  • Gweithio gyda thîm rhaglen CDC i adnabod straeon effaith posibl
  • Cyfleu lleisiau’r rhai sydd wedi cael cefnogaeth
  • Creu astudiaethau achos – gall hyn cynnwys gwaith ysgrifenedig, fideo neu sain
  • Rhannu straeon wedi’u dal gyda’n tîm Polisi a Chyfathrebu i’w defnyddio ar ein gwefan ac amryw o sianeli cyfryngau cymdeithasol.
  • Cysylltu ag interniaid eraill o fewn cyfarwyddiaeth Cymunedau Cynhwysol Cwmpas, a rhannu syniadau a dysgu.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?

  • Byddwch yn dysgu am yr agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru, a’r pwysigrwydd y mae cynhwysiant yn ei chwarae ar gyfer trawsnewid digidol yn y dyfodol, a sut mae cyfathrebu’n chwarae rhan yn hynny.
  • Byddwch yn dysgu am fanteision ymgorffori sgiliau digidol a hyder mewn cymunedau a sefydliadau, gan gynnwys sut y gall leihau unigedd cymdeithasol ac unigrwydd, cynyddu hyder a sgiliau, yn ogystal â chreu dinasyddion digidol mwy gwydn.
  • Cewch gyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl a chymunedau a’u helpu i adrodd eu straeon.
  • Byddwch yn ennill profiad gwerthfawr o weithio fel rhan o dîm llawn egni a chyflym, sy’n gweithio gyda chymunedau amrywiol ledled Cymru.
  • Byddwn yn rhoi cylch gwaith i chi ar gyfer eich gwaith, a fydd yn eich galluogi i weithio’n annibynnol a defnyddio’ch creadigrwydd eich hun ond a fydd hefyd yn rhoi cymorth i chi pan fyddwch ei angen.
  • Bydd gennych fynediad i’n Canolfan E-ddysgu, sydd ag ystod eang o fodiwlau ar gael ar bynciau fel Iechyd a Diogelwch, GDPR, Arweinyddiaeth, TG a Lles. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm a byddwch yn gallu cymryd rhan mewn unrhyw gyfleoedd hyfforddi mewnol a allai godi o bryd i’w gilydd.

 Pa sgiliau fydd angen arnoch chi?

 Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd:

  • yn ymrwymo i werthoedd ein cwmni
  • yn gallu hyrwyddo ein hymrwymiad i gydraddoldeb, tegwch a chynhwysiant
  • yn gallu cyfathrebu (ar lafar ac yn ysgrifenedig) i safon uchel yn Saesneg
  • yn gallu trefnu eu hunain yn dda a thrin gwaith gwahanol ar gyfer terfynau amser gwahanol
  • yn gallu gweithio’n dda mewn tîm
  • yn gallu meddwl yn greadigol, ac awgrymu syniadau newydd
  • yn gallu defnyddio cyfrifiadur a llwyfannau fel Facebook, Twitter, LinkedIn neu YouTube.
  • â’r sgiliau i greu a datblygu astudiaethau achos cyfryngau cymysg yn ddymunol.
A woman working form home
Sut ydych chi’n ymgeisio?
Sut ydych chi’n ymgeisio? I ymgeisio ar gyfer yr interniaeth, cwblhewch ein ffurflen gais fer os gwelwch yn dda a’u hanfon trwy e-bost at recruitment@cwmpas.coop. Rhaid cyflwyno eich cais erbyn 10yh 24 Tachwedd 2024. Os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch â Nicola Leybourne, Partner Pobl a Diwylliant ar 029 2080 7113. Edrychwn ymlaen at glywed wrthych!
Apply here