Mae’r Dechrau Rhywbeth Da™ fel arfer yn sesiwn diwrnod cyfan sy’n dod â phobl ynghyd i ddatblygu syniadau newydd i ddatrys problemau sy’n bwysig iddynt. Gallai hyn fod o fewn cymunedau, lleoliadau addysgol, busnesau, cyrff cyhoeddus neu unrhyw fath o sefydliad.
Sut allech chi ddefnyddio'r Dechrau Rhywbeth Da™?
Mae problem neu fater yn cael ei nodi ar gyfer yr Dechrau Rhywbeth Da™ a chytunir ar amcanion. Gwahoddir pobl sy’n poeni am y mater neu’r broblem i’r digwyddiad a rhoddir y wybodaeth berthnasol iddynt i’w hysbrydoli a’u hysbysu cyn y sesiwn.
Diwrnod o sesiynau ymarferol yn canolbwyntio ar gydweithio a chynhyrchu syniadau ffres. Gweithio mewn timau i nodi’r problemau, meddwl yn greadigol a dod ag ef at ei gilydd i greu cyflwyniad anghystadleuol.
Ar ôl yr Dechrau Rhywbeth Da™, bydd y tîm yn ysgrifennu canfyddiadau’r diwrnod, yn manylu ar y camau nesaf i’w gweithredu ac yn cyfeirio at ymgysylltu pellach er mwyn gwireddu’r syniadau.
Bydd y tîm yn ysgrifennu canfyddiadau’r diwrnod, yn manylu ar y camau nesaf ar gyfer gweithredu ac yn cyfeirio at ymgysylltu pellach er mwyn gwireddu’r syniadau.
Yng Nghwmpas mae gennym dîm angerddol, ymroddedig a phrofiadol sy’n cyflwyno’r Dechrau Rhywbeth Da™ ac a fydd yn eich cefnogi trwy bob cam o’r broses.
Martin yw crëwr y Dechrau Rhywbeth Da a’r Dechrau Rhywbeth Da™ ac mae’n Gymrawd o’r RSA. Mae gan Martin gefndir mewn busnes, gwaith cymunedol, a chyhoeddi, ac mae’n awdur ac yn siaradwr cyhoeddus. Ef yw Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu Cwmpas. Cyn ymuno â Chwmpas roedd Martin yn rhedeg asiantaeth greadigol, a bu’n gweithio gydag unigolion a sefydliadau gan wneud argraff er da.
Mae Paul wedi gweithio yn y Trydydd Sector yng Nghymru ers 20 mlynedd, gan weithio ar lawr gwlad ac ar ddull Cymru gyfan i gefnogi cymunedau i gael bywoliaethau mwy cynaliadwy gan ddefnyddio dulliau seiliedig ar asedau. Ar ôl sefydlu dau fusnes yn y gorffennol, mae Paul yn eiriolwr brwd dros wreiddio menter, arloesedd a diwylliant digidol i greu cymdeithas well.
Cysylltwch â’n tîm heddiw i ddarganfod mwy am yr Dechrau Rhywbeth Da™
Mae Start Something Good wedi ennill Gwobr fawreddog Diwydiant i Ddiwydiant gan y Sefydliad Cydweithredol (ICW).
Mae Gwobrau ICW yn dathlu rhagoriaeth mewn cydweithio ar draws sectorau diwydiant, gan dynnu sylw at waith sefydliadau sy‘n dangos arweinyddiaeth, arloesedd ac effaith fesuradwy.
Cwmpas oedd yr unig sefydliad yng Nghymru i ddod â gwobr adref yn ystod gwobrau 2025.