Cynhwysiant Digidol: Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol
Yn y ddogfen hon, bydd Cwmpas yn tynnu ar ei brofiad o gyflawni prosiectau cynhwysiant digidol yng Nghymru i nodi ei weledigaeth ar gyfer dyfodol cynhwysiant digidol yng Nghymru. Bydd yn cymryd dull strategol at sicrhau cenedl sy’n gynhwysol ac yn hyderus yn ddigidol. Mae gan dechnolegau digidol y potensial i drawsnewid economi a chymunedau Cymru, gan ganiatáu i bobl fod yn fwy cysylltiedig ac arloesol nag erioed. Fodd bynnag, mae ganddo hefyd y potensial i waethygu anghydraddoldebau a gadael pobl ar ôl, gan roi hyd yn oed fwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus yn y tymor hir. O ganlyniad, dylid rhoi sylw i gynhwysiant digidol a buddsoddi ynddo ar bob cam o ddatblygiad polisi. Yn yr adroddiad hwn, byddwn yn amlinellu ein camau nesaf i greu cenedl sy’n wirioneddol gynhwysol yn ddigidol.