Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2025
Fel aelod o Cwmpas, fe’ch gwahoddir i fynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni, y byddwn yn ei gynnal ar-lein trwy Zoom ddydd Mawrth 30 Medi 2025 am 10am.
Credwn y gall cwmnïau cydweithredol ac egwyddorion cydweithredol helpu pobl, teuluoedd, cymunedau a busnesau i fod yn gryfach ac yn fwy hyderus. Gallwch gefnogi’r egwyddorion hyn a helpu i ledaenu’r delfrydau hyn trwy gymryd rhan yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Fel aelod o Cwmpas, gwahoddwn chi i fynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2025 ar y 30ain o Medi 2025, 10am.
Etholiadau i’r Bwrdd
Eleni, mae pum lle ar gael ar y bwrdd a derbyniwyd enwebiadau gan pum aelod.
Os na allwch ddod i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ond hoffech benodi procsi i bleidleisio ar eich rhan, llenwch y ffurflen brocsi a’i dychwelyd trwy e-bost at info@cwmpas.coop erbyn canol dydd, Dydd Llun 29 Medi 2025.
Mae’r dogfennau sy’n ymwneud a’r CCB, yn cynnwys ffurflen brocsi, isod:
Dogfennau
Cliciwch ar y dolenni isod i weld a lawrlwytho pob dogfen:
- Agenda ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2025
- Cofnodion drafft y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar 27 Medi 2024
- Adroddiad effaith blynyddol 2024-25
- Cyflwyno Cyfrifon Archwiliedig 2024/25
- Cynnig i gael gwared ar y Marquis Caines o Fwrdd Cwmpas
- Cynnig i Ddiwygio Rheolau Cwmpas
- Enwebiadau Bwrdd CCB
- Ffurflen brocsi
-
Rhestr o aelodau sy'n gymwys i gael eu hethol
- Rheolau Cwmpas
Rhowch wybod i ni trwy e-bost at info@cwmpas.coop os hoffech dderbyn fersiynau “Hygyrch” o’r ddogfennau.