Rhaglen Gymorth ar gyfer darparwyr gofal yn ysector preifat sy’n ystyried newid i un o’r modelau”dielw”



Y pecyn cymorth
Bydd nifer o gamau i’r broses gan gynnwys pan fo’n briodol:
- Trafodaeth er mwyn dod i adnabod eich busnes, eich rôl o fewn y busnes a’r hyn a ddymunir gennych pe baech yn ail-sefydlu;
- Gwerthusiad annibynnol a theg o’ch busnes a chyngor treth arbenigol a wneir
gan gwmni cyfrifyddu sydd â phrofiad addas. - Manylion pellach am y pedwar model nid-er-elw a ganiateir a chymorth i ystyried yr un mwyaf addas ar gyfer eich amgylchiadau;
- Archwilio hyfywedd a’r opsiynau ariannu ar gyfer ail sefydlu / prynu asedau gan fenter nid-er-elw “newydd”;
- Cynllun o’r camau i gymryd ar gyfer sefydlu a dechrau gweithredu eich model dewisol;
- Cyngor, canllawiau a hyfforddiant ar faterion llywodraethu megis recriwtio bwrdd, polisïau a gweithdrefnau ac ati;
- Cymorth i gofrestru eich ffurf gyfreithiol ddewisol os ydych am fwrw ymlaen â’r broses.
O’n profiad blaenorol o gynnal prosiect peilot gyda nifer fach o ddarparwyr, rydym yn gwbl ymwybodol y bydd pob busnes yn wynebu heriau unigol a phenodol, a’n bwriad yw i weithio gyda chi i geisio goresgyn y rhain gorau bosib.
Bydd gennym fodd i gysylltu’n uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru ac AGC (CIW) hefyd a bydd hyn yn ein galluogi i ofyn cwestiynau penodol, yn gyfrinachol, a cheisio atebion am faterion sy’n anhysbys i ni i gyd ar hyn o bryd.
Cyfrinachedd ac Adrodd yn ôl i
Lywodraeth Cymru
Gan fod y prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, bydd gofyn i ni gyflwyno adroddiadau cynnydd chwarterol i ddangos i ba raddau y mae dibenion a chanlyniadau’r prosiect yn cael eu cyflawni a’r rhesymau dros unrhyw ddiffyg.
Bydd yn ofynnol i ni roi gwybod iddynt am:
- Nifer yr ymholiadau
- Nifer y busnesau a gefnogwyd i edrych ar opsiynau ail-sefydlu
- Nifer y swyddi a ddiogelwyd
- Nifer y busnesau a aeth ymlaen i ail-sefydlu fel busnes nid-er-elw
Bydd gofyn i ni hefyd:
- Greu astudiaethau achos o’r gefnogaeth a ddarperir ond bydd y rhain yn ddienw fel na ellir adnabod busnesau unigol. Fodd bynnag, os byddwch chi’n mynd ymlaen i ail-sefydlu eich busnes yn llwyddiannus fel un o’r modelau cymeradwy, yna mae’n debyg y byddem ni eisiau eich enwi mewn
astudiaeth achos heb gynnwys gwybodaeth sy’n fasnachol sensitif. - Byddem yn trafod ac yn cytuno ar y geirio gyda chi.
- Nodi unrhyw heriau cyffredinol a wynebir gan fusnesau a phartneriaid.
- Basio ‘mlaen unrhyw adborth a gawn gan gleientiaid ynghylch a’r gefnogaeth a ddarperir. Unwaith eto gellir gwneud hyn yn ddienw.
Bydd unrhyw wybodaeth a rannwch gyda ni sy’n fasnachol sensitif yn cael ei thrin a’i chadw yn unol â GDPR.
I gloi
Nid ydym am geisio “gwthio” unrhyw un i lawr llwybr nad yw’n ymarferol nac yn apelgar i berchnogion. Ein nod yw darparu cefnogaeth a chyngor ystyrlon i fusnesau sydd yn ystyried ail-sefydlu fel model nider-elw ac sydd eisiau deall eu hopsiynau a’r heriau penodol yn well.
Yn y pen draw, rydym yn gobeithio gallu gweithio ochr yn ochr â
phartneriaid fel 4Cs a AGC i osgoi colli busnesau da yng Nghymru sy’n
darparu gwasanaethau sefydlog a chadarnhaol i blant.
Mae’r sefyllfa yn newydd i bob un ohonom a byddwn yn gwneud ein
gorau i’ch helpu i oresgyn yr heriau os yw hyn o ddiddordeb i chi.
Os hoffech glywed gennym neu os oes gennych gwestiynau pellach
am y rhaglen gymorth, mae croeso i chi gysylltu â ni:
branwen.ellis@cwmpas.coop / rhys.williams@cwmpas.coop .

