Ein gwerthoedd
Credwn fod y ffordd y gwnawn ni bethau yr un mor bwysig a’r hyn a wnawn ni. Mae ein gwerthoedd yn deillio o egwyddorion y sefydliad cydweithredol rhyngwladol ond rydym yn eu mynegi yn ein geiriau ein hunain.
1
Bod yn gydweithredol – Rydym yn cydweithio ar gyfer budd ar y ddwy ochr
- Rydym yn cydweithio: gyda’n timau gwaith uniongyrchol, ar draws y busnes ehangach a chyda rhanddeiliaid eraill
- Rydym yn rhannu offer, adnoddau, sgiliau, gwybodaeth a syniadau
- Rydym yn adeiladu ymddiriedaeth a pherthnasoedd sydd o les ac sy’n para
- Rydym yn gweithio gyda’r sector ac ar ei gyfer
2
Bod yn gefnogol – Rydym yn rhoi ein hamser, arbenigedd ac anogaeth
- Rydym yn barod i helpu ein cleientiaid a’n cydweithwyr
- Rydym yn credu mewn sgiliau pobl eraill
- Rydym yn adnabod ac yn gwerthfawrogi eraill
- Rydym yn gofalu am ein lles ein gilydd
- Rydym yn ystyriol o effaith ein gweithredoedd ar eraill
- Rydym yn dangos tosturi
3
Bod yn deg – Rydym yn rhoi gwerth ar amrywiaeth a democratiaeth
- Rydym yn ymddwyn yn deg ac yn dryloyw
- Rydym yn anelu at degwch mewn busnesau a chymunedau
- Rydym yn trin eraill gyda pharch
- Rydym yn gwerthfawrogi gwahaniaethau unigol
4
Bod yn onest - Rydym yn anelu at fod yn agored ac yn onest gyda phopeth yr ydym yn ei wneud
- Rydym yn ymddwyn yn foesol
- Rydym yn gwneud y peth iawn
- Rydym yn cynnal gwerthoedd
- Rydym yn broffesiynol
- Rydym yn atebol
- Rydym yn gyfrifol am yr amgylchedd
5
Bod yn gadarnhaol – Rydym yn buddsoddi ein hegni mewn cyflawni canlyniadau
- Rydym yn canolbwyntio ar ddatrysiadau
- Rydym yn teithio’r filltir ychwanegol
- Rydym yn gweithredu hyd safon uchel
- Rydym yn angerddol am ein gwaith
- Rydym yn dysgu oddi wrth ein camgymeriadau
6
Bod yn ysbrydoliaeth - Rydym yn hybu busnesau, cymunedau a phobl i gymryd rheolaeth a chyrraedd eu potensial
- Rydym yn cynnig cyfleoedd
- Rydym yn meithrin ysbrydoliaeth
- Rydym yn adeiladu sgiliau a hyder
- Rydym yn annog newid
- Rydym yn arwain trwy esiampl
- Rydym yn tyfu wrth i ni helpu eraill i dyfu