Telerau gwasanaeth
- Mae’r wefan hon, sef cwmpas.coop (y “wefan”) dan berchnogaeth, ac yn cael ei gweithredu gan Cwmpas (neu “ni”) sydd wedi ei chofrestru yng Nghymru a Lloegr, rhif cwmni IP24287R.
- Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir; ond nid ydym yn atebol am unrhyw gamgymeriad(au).
- Mae gwybodaeth, dyluniadau, cynnwys, gwaith celf a lluniau’r wefan hon wedi eu diogelu gan hawlfraint. Rydym yn hapus i chi wneud copïau o’r wybodaeth a’r delweddau ar y wefan hon os yw’n angenrheidiol ac yn anorfod i chi eu gweld; a gallwch argraffu cymaint o’r wefan ag sy’n rhesymol, ar gyfer eich defnydd personol, at ddibenion preifat ac anfasnachol. Mae croeso i chi gyhoeddi hyperddolenni i unrhyw ran o’n gwefan. Ac nid oes angen i chi ofyn caniatâd i osod dolen sy’n mynd yn uniongyrchol at unrhyw dudalennau, ond a fyddech cystal â pheidio â fframio’r wefan hon heb ganiatâd ysgrifenedig wrthym.
- Rydych yn cydnabod ac yn cytuno bod pob nod masnach, nod gwasanaeth, logo a hawl eiddo deallusol arall yn yr holl ddeunydd neu gynnwys ar y wefan yn parhau i fod yn ein meddiant ni neu ein cleientiaid/trwyddedwyr. Mae gennych hawl i ddefnyddio’r deunydd hwn ar ôl i ni awdurdodi hynny.
- Ni ddylech ddefnyddio’r wefan hon at unrhyw ddibenion anghyfreithlon, ac yn benodol, cytuno na fyddwch yn anfon, defnyddio, copïo neu bostio (neu ganiatáu i unrhyw beth gael ei anfon, ei ddefnyddio, ei gopïo neu ei bostio) deunydd sy’n ddifenwol neu anweddus, neu sy’n sarhaus, anaddas neu yn amharu ar breifatrwydd unrhyw unigolyn.
- Darperir y wefan hon i chi yn rhad ac am ddim, ac nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd i chi (ac eithrio achos o anaf personol neu farwolaeth o ganlyniad i’n hesgeulustod difrifol neu gamymddwyn bwriadol), p’un a yw hynny dan gytundeb, camwedd (gan gynnwys esgeulustra) neu fel arall, sy’n codi o ganlyniad i’r wefan hon, neu yn gysylltiedig â hi. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw niwed uniongyrchol, arbennig, anuniongyrchol na chanlyniadol, nac unrhyw niwed arall sy’n codi o ddefnyddio’r wefan hon, neu unrhyw wybodaeth sy’n cael ei hennill o’r wefan, yn uniongyrchol ai peidio. Eich unig ddatrysiad yw rhoi’r gorau i ddefnyddio’r wefan hon.
- Gallwn addasu’r telerau hyn o bryd i’w gilydd ar unrhyw adeg a heb rybudd, a bydd y newidiadau’n cael eu gweithredu yn syth ar ôl cyhoeddi’r telerau diwygiedig. Chi sy’n gyfrifol am wirio’r wefan o bryd i’w gilydd am newidiadau, a bydd parhau i ddefnyddio’r wefan hon yn dangos eich bod yn derbyn y telerau newydd.
- Bydd eich defnydd o’r wefan hon a’r hyn rydych yn ei lawrlwytho ohoni, a’r ffordd y mae’r telerau hyn yn cael eu gweithredu, yn cael eu llywodraethu yn unol â chyfreithiau Lloegr a Chymru.
- Rydym yn parchu eich data personol, a byddwn yn ei drin yn unol â’n polisi preifatrwydd. Gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd yma.
- Os penderfynir bod unrhyw un o’r telerau, neu ran ohonynt, yn annilys, anghyfreithlon neu anorfodadwy i unrhyw raddau gan unrhyw awdurdod cymwys, bydd y telerau hynny yn cael eu tynnu o’r telerau presennol, a fydd yn parhau i fod yn ddilys ac yn orfodadwy i’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith.
Mae’r telerau hyn yn gymwys o fis Mawrth 2017 ymlaen, pan gawsant eu diweddaru ddiwethaf.