Polisi iaith Gymraeg
Mae’r Cwmpas yn sefydliad sy’n cael ei sbarduno gan ei werthoedd. Rydym yn cydnabod bod ymrwymiad i’r iaith Gymraeg yn cyd-fynd â’n hawydd i fod yn deg ac yn adlewyrchu’r pwys a roddwn ar amrywiaeth.
Mae Cwmpas wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd, wrth gynnal ei busnes yng Nghymru, yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.
Daw llawer o’n cyllid o ffynonellau cyhoeddus, felly mae dyletswydd arnom i roi darpariaeth ddwyieithog i’r cyhoedd yn unol â chanllawiau ein cyllidwyr.
Teimlwn yn gryf y dylid darparu gwasanaethau dwyieithog i’r cyhoedd er mwyn cynnal yr egwyddorion canlynol:
- fod ein cleientiaid a rhanddeiliaid eraill yn gallu mynegi eu safbwyntiau a chyfleu eu hanghenion yn eu dewis iaith.
- pwysigrwydd darparu gwasanaethau yn newis iaith y defnyddiwr gwasanaeth.
- y ffaith fod galluogi cleientiaid a rhanddeiliaid eraill i ddefnyddio eu dewis iaith yn rhan bwysig o arfer da.
- y ffaith y gallai gwadu’r hawl iddynt ddefnyddio eu dewis iaith beri anfantais i aelodau’r cyhoedd.