Adeiladu economïau lleol cryfach
Covid-19 a’r argyfwng hinsawdd yw dwy her fawr sy’n wynebu’r genhedlaeth hon. Mae consensws bod angen gwneud newidiadau sylfaenol i’r ffordd mae ein heconomi a chymdeithas yn gweithio fel ein bod ni’n blaenoriaethu llesiant, cydnerthedd a chynaliadwyedd. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni ailgydbwyso ein heconomi, fel bod dinasyddion a chymunedau yn cael rhagor o rym, cyfoeth, a rheolaeth i ddatrys yr heriau sy’n ein hwynebu. Mae llawer o bobl yn disgrifio’r broses ailgydbwyso hon fel adeiladu cyfoeth y gymuned.Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen datblygu polisi effeithiol a sicrhau trefniadaeth gymunedol ac ymyrraeth wleidyddol. Ar draws sectorau gwahanol ac mewn gwahanol rannau o Gymru, mae cymunedau a llunwyr polisi wedi cael profiadau gwahanol ac yn wynebu rhwystrau gwahanol, ac maent yn cynnig atebion gwahanol ond ategol. Mae’r rhain yn rhoi cyfleoedd i ni ddysgu a dod o hyd i arfer gorau, er mwyn sicrhau bod yr ymyriadau a’r polisïau mwyaf effeithiol yn cael eu rhoi ar waith ar draws y wlad.
Rydym wedi gweld sawl newid polisi yn lleol, yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig yn ystod y blynyddoedd diweddar a symudiad tuag at adeiladu economi sy’n blaenoriaethu llesiant a chydnerthedd. Cyflwynwyd deddfwriaeth newydd, fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae polisïau yn canolbwyntio mwy ar Bartneriaeth Cymdeithasol. Mae sefydliadau newydd pwysig yn cael eu datblygu, fel y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae cyfleoedd cyllido newydd allweddol ar gael, fel y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r Gronfa Adfywio Cymunedol. Yn sgil y datblygiadau hyn, mae’n hollbwysig bod pawb yng Nghymru yn derbyn cymorth i ddeall y termau a’r syniadau newydd hyn.
Nod y canllaw hwn yn pontio’r bwlch rhwng llunwyr polisi a’r rhai sy’n darparu’r gwasanaethau ar lawr gwlad. Mae’n esbonio termau a syniadau allweddol ac yn rhoi enghreifftiau cadarn o’r ffordd y gellir eu rhoi ar waith yng Nghymru a’i chymunedau.