Trawsnewid Cymru drwy fentrau cymdeithasol
Wedi’i lunio ar y cyd gan fentrau cymdeithasol ac asiantaethau cymorth mentrau cymdeithasol gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae *‘Trawsnewid Cymru drwy fentrau cymdeithasol’ yn amlinellu gweledigaeth uchelgeisiol a fydd yn gweld mentrau cymdeithasol yn dod yn fodel busnes o ddewis yng Nghymru erbyn 2030 ar gyfer pobl a chymunedau gan ddarparu atebion i heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.