Sut y gall Llywodraeth Cymru newydd fabwysiadu dull cydweithredol o greu twf a chyfleoedd go iawn i bobl Cymru

22 May 2026

Wrth i’r llwch setlo ar etholiad hanesyddol, mae’r sylw bellach yn troi o ymgyrchu at gyflawni. Mae gan Gymru Lywodraeth, Prif Weinidog a Chabinet newydd, ac yn y cyfnod cyn yr etholiad, yng nghanol yr holl ansicrwydd gwleidyddol, daeth un peth yn glir: mae pobl ledled Cymru eisiau newid.

Mae’r awydd am newid hwnnw wedi’i wreiddio yn y pwysau beunyddiol sydd wedi bod yn wynebu aelwydydd, cymunedau ac economïau lleol dros gyfnod hir. Mae tlodi yn parhau’n ystyfnig. Mae gwasanaethau cyhoeddus o dan bwysau. Mae gormod o leoedd yn dal i deimlo bod twf economaidd yn digwydd yn rhywle arall, neu’n dod â budd i rywun arall. Rhaid i dyfu economi Cymru fod yn flaenoriaeth ganolog i’r Llywodraeth newydd – ond mae’r math o dwf rydym yn ei geisio yn bwysig.

Nid twf sy’n echdynnu cyfoeth o gymunedau ac yn canoli cyfleoedd mewn rhy ychydig o ddwylo neu leoedd sydd ei angen ar Gymru. Mae angen twf sy’n ystyrlon i bobl a lleoedd ledled y wlad: twf sy’n creu swyddi da, yn cryfhau cadwyni cyflenwi lleol, yn gwella gwasanaethau, yn cadw asedau y mae pobl yn poeni amdanynt mewn defnydd cymunedol, yn sicrhau bod elw yn cael ei ailfuddsoddi’n lleol er budd ehangach, ac yn rhoi mwy o ran i bobl yn yr economi o’u cwmpas.

Dyna lle mae gan fentrau cydweithredol, mentrau cymdeithasol a busnesau sy’n eiddo i weithwyr ran mor hanfodol i’w chwarae.

Effaith menter gymdeithasol a pherchnogaeth ddemocrataidd

Mae’r rhain yn fusnesau sydd wedi’u gwreiddio mewn diben yn ogystal ag elw. Maent yn masnachu, yn cyflogi pobl, yn arloesi ac yn darparu gwasanaethau, ond maent yn gwneud hynny mewn ffyrdd sy’n cadw cyfoeth a grym yn nes at gymunedau. Maent yn aml wedi’u hangori yn y lleoedd y maent yn eu gwasanaethu, wedi’u llywodraethu gyda phobl yn hytrach nag ar eu rhan, ac wedi’u cynllunio i greu gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol gyda’i gilydd.

Ar eu gorau, maent yn dangos nad oes rhaid i ddatblygu economaidd fod yn rhywbeth echdynnol sy’n cael ei wneud i gymunedau, ond y gall fod yn rhywbeth sy’n cael ei adeiladu gan gymunedau, dros gymunedau.

Y cyfle nawr yw ail-ddychmygu economi Gymru fwy cytbwys, wedi’i chanoli ar fwy o gyfleoedd ar gyfer adeiladu cyfoeth cymunedol, ac wedi’i phweru gan fentrau Cymreig ailddosbarthol, cymdeithasol a democrataidd. Mae hynny’n golygu canolbwyntio nid yn unig ar dwf ar bapur, ond ar sut mae’r twf hwnnw’n cael ei greu a beth y gall ei gyflawni: swyddi gwell, cymunedau cryfach, economïau lleol mwy gwydn, a dosbarthiad tecach o gyfoeth a chyfleoedd.

Straeon ysbrydoledig sy’n dangos beth sy’n bosibl

Mae mwy a mwy o enghreifftiau ymarferol, yng Nghymru ac yn rhyngwladol, sy’n dangos sut y gall dulliau cydweithredol ac adeiladu cyfoeth cymunedol helpu i wireddu potensial economaidd. Ni ddylai hyn gael ei ysteried yn syniad ymylol – mae’n ymwneud ag adeiladu economi fodern lle mae perchnogaeth, rheolaeth ddemocrataidd a chynaliadwyedd hirdymor wedi’u hymgorffori.

Mae’r potensial economaidd wedi cael ei wireddu mewn rhanbarthau eraill, yn arbennig Gwlad y Basg. Mae Cwmpas wedi bod yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr o Wlad y Basg, ac roeddem yn falch o ymuno ag ymweliad Comisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol â Mondragon yn ddiweddar. Mae Mondragon yn parhau i fod yn un o’r enghreifftiau modern mawr o’r hyn y gall datblygu economaidd cydweithredol ei gyflawni: nid yn unig fel model busnes, ond fel ecosystem o wydnwch economaidd a diwylliannol drwy addysg, cyllid ac arloesi. Mae ei drosiant o €11.2 biliwn a’i gyflogaeth o dros 70,000 o bobl yn dangos na ddylai fod unrhyw derfyn ar ein huchelgais yn y sector hwn.

Mae Cymru wedi cael ei hystyried ers tro yn ganolbwynt datblygu cydweithredol yn y DU. Canfu adroddiad Economi Gydweithredol a Chydfuddiannol 2025 fod Cymru yn arwain y DU o ran twf dros bum mlynedd ar ôl addasu ar gyfer maint, a bod cyfanswm o 7% o fentrau cydweithredol y DU wedi’u cofrestru yng Nghymru. Ond y cam nesaf yw i faint cyffredinol yr economi gydweithredol o ran trosiant ddal i fyny â gweddill y DU.

Mewn rhai rhannau o’r wlad, gwelwyd cynnydd gwirioneddol. Mae rhwydweithiau o fusnesau sy’n eiddo i’r gymuned a mentrau cymdeithasol, sydd wedi’u sefydlu dros gyfnod hir, wedi dod ynghyd fel clymbleidiau cydlynol a strategol, wedi’u pweru gan angerdd, creadigrwydd a phenderfyniad pobl leol i wneud gwahaniaeth. Gyda buddsoddiad, cymorth a llawer iawn o benderfyniad i oresgyn heriau, maent wedi creu newid ystyrlon a gwelliannau sydd wedi trawsnewid lleoedd a bywydau, gan greu mwy o berchnogaeth leol ar gyfoeth, asedau a gwasanaethau. Nawr mae angen inni weld yr un peth ar draws Cymru.

Catalydd posibl ar gyfer twf cydweithredol

Mae aliniad cryf rhwng ymrwymiadau maniffesto’r Llywodraeth newydd a’r blaenoriaethau sydd wedi cael eu nodi ers tro gan y mudiad cydweithredol a menter gymdeithasol.

Mae’r don hon o newid yn cynnig cyfle i fynd ymhellach ac yn gyflymach, ac mae angen i Gymru bellach fabwysiadu dull cydweithredol yn gydlynol ar draws blaenoriaethau’r llywodraeth. Mae perthnasedd yr agenda hon yn ganolog i’r portffolio economi, ond nid yw wedi’i gyfyngu iddo. Mae ganddi rôl hefyd mewn tai, gofal cymdeithasol, gofal plant, twristiaeth, chwaraeon, diwylliant, y Gymraeg, y diwydiannau creadigol ac asedau cymunedol. Gall helpu i fynd i’r afael â methiant y farchnad, diogelu gwasanaethau lleol gwerthfawr, creu gwaith mwy diogel, a rhoi’r offer i gymunedau fynd i’r afael â’r heriau y maent yn eu hwynebu nawr wrth lunio eu dyfodol eu hunain.

Mewn sawl ffordd, mae hon yn ffordd Gymreig iawn o feddwl am yr economi, gan adlewyrchu pwysigrwydd lle, llesiant a phartneriaeth gymdeithasol. Ond mae troi’r weledigaeth a’r uchelgais yn newid ymarferol ac effaith wirioneddol yn gofyn am fwy na geiriau cynnes. Mae’n gofyn am ddull ecosystem: llywodraeth, awdurdodau lleol, cyllidwyr, cymunedau a’r sector yn gweithio gyda’i gilydd gyda diben cyffredin.
Gallai ymrwymiadau i gyflwyno Hawl Gymunedol i Brynu ei gwneud yn haws i asedau lleol gwerthfawr fel tafarndai, siopau, caffis, adeiladau, tir a lleoliadau diwylliannol symud i berchnogaeth gymunedol pan fyddant yn dod ar werth. Ar adeg pan fo cymunedau ledled Cymru yn brwydro i ddiogelu’r asedau sy’n bwysig iddynt, gallai hyn fod yn drawsnewidiol.

Mae ymrwymiad i ddarparu mwy o gymorth arbenigol i greu, tyfu a chynnal mentrau cydweithredol, busnesau sy’n eiddo i weithwyr a mentrau cymdeithasol hefyd yn hanfodol. Mae’r modelau hyn yn bwerus, ond mae angen y cyngor, yr arbenigedd a’r cymorth amyneddgar cywir arnynt. Os yw Cymru eisiau mwy o fusnesau democrataidd â diben cymdeithasol, rhaid iddi fuddsoddi yn y seilwaith sy’n eu helpu i ddechrau, goroesi a thyfu. Yn ganolog i rymuso adeiladu cyfoeth economaidd lleol mae cymorth busnes ymatebol sydd wedi’i deilwra i flaenoriaethau a bennir yn lleol.

Yn ogystal, gallai cymorth wedi’i dargedu ar gyfer datblygu mentrau cydweithredol a busnesau cymdeithasol, wedi’i ganoli ar flaenoriaethau economaidd cenedlaethol a rhanbarthol, ddatblygu potensial y sector i greu twf economaidd cynaliadwy ac effaith economaidd barhaus. Gallai hyn dyfu busnesau Cymreig sydd yma i aros, wrth adeiladu mwy o hunangynhaliaeth a mwy o wydnwch yn wyneb siociau byd-eang. Mae’r cyfleoedd hyn yn bodoli o amgylch buddsoddiadau ar raddfa fawr mewn seilwaith, adeiladu ac ynni, a gellid eu gwireddu mewn system datblygu economaidd sydd â dull cydweithredol a menter gymdeithasol yn greiddiol iddi.

Mae dull cenedlaethol o ddatblygu busnesau gyda pherchnogaeth yng Nghymru, cryfhau cadwyni cyflenwi lleol, creu gwaith teg a lledaenu ffyniant ledled Cymru yn cynnig cyfle mawr i’r sector. Byddai hyn yn galluogi twf wedi’i adeiladu ar berchnogaeth wedi’i angori yn lleol, a datblygu economaidd wedi’i wreiddio yn anghenion a chryfderau lleoedd. Wrth ddatblygu fframwaith ar gyfer hyn a chylch gwaith asiantaeth genedlaethol, mae’n hanfodol bod potensial y sector hwn wrth wraidd y gwaith, a bod mentrau cydweithredol a mentrau cymdeithasol yn rhan o’r sgwrs.

Byddai’r ymrwymiad maniffesto i wella mynediad at gyllid yn lifer hanfodol. Yn rhy aml, mae busnesau cymdeithasol a democrataidd yn wynebu rhwystrau wrth geisio cael gafael ar gyllid priodol. Gallai dull mwy teilwredig, fel yr un sydd wedi’i ddatblygu gan ein cydweithwyr yn Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru, helpu i ddatgloi uchelgais a galluogi cymunedau i fwrw ymlaen â phrosiectau hyfyw.

Mae caffael yn gyfle mawr arall. Gallai’r ymrwymiad i gynyddu gwariant caffael cyhoeddus Cymru gyda chyflenwyr o Gymru o 55% i o leiaf 70%, ochr yn ochr â sgorio contractau sy’n rhoi mwy o bwyslais ar effaith gymunedol, gwerth cymdeithasol, capasiti busnesau Cymreig a chadwyni cyflenwi lleol, helpu i symud gwariant cyhoeddus tuag at fudd cyhoeddus ehangach. O’i wneud yn dda, gall caffael fod yn un o’r arfau mwyaf pwerus sydd gan Gymru ar gyfer adeiladu cyfoeth lleol.

Mae yna hefyd ymrwymiadau pwysig i ehangu modelau menter gymdeithasol a chydweithredol mewn gofal cymdeithasol, cefnogi perchnogaeth gymunedol a chydweithredol ar fannau diwylliannol, a datblygu datrysiadau cydweithredol a chanolfannau adnoddau a rennir ar gyfer gweithwyr llawrydd a phobl hunangyflogedig yn y diwydiannau creadigol. Mae’r ymyriadau ymarferol a phenodol i sector hyn yn dangos sut y gellir cymhwyso meddwl cydweithredol ar draws yr economi a chymdeithas er mwyn cael mwy o effaith. Mae cyfleoedd i fynd ymhellach ar draws pob maes sy’n flaenoriaeth i gymunedau ffyniannus lle mae pobl yn byw’n dda, o rôl menter gymdeithasol wrth gefnogi cynnig gofal plant blaenllaw Plaid, i ddiogelwch bwyd, trafnidiaeth a thwristiaeth.

Trawsnewid economi Cymru

Y dasg nawr yw cyflawni. Mae’r sectorau cydweithredol, perchnogaeth gweithwyr a menter gymdeithasol yn barod i chwarae eu rhan. Maent yn dod â phrofiad ymarferol, gwybodaeth arbenigol ac enghreifftiau go iawn o’r hyn sy’n gweithio mewn amgylchedd busnes. Wrth i’r Llywodraeth newydd ddechrau datblygu ei rhaglenni, strategaethau a deddfwriaeth allweddol, mae’n hanfodol bod y sector yn cael ei ystyried a’i alluogi i chwarae rhan ystyrlon ym mhob cam, o gynllunio a datblygu hyd at gyflawni.

Mae gan Gymru gyfle i adeiladu economi sy’n fwy gwydn, yn fwy democrataidd ac wedi’i gwreiddio’n ddyfnach yn y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Mae’r uchelgais yno. Mae’r ymrwymiadau maniffesto yn darparu sylfaen gref. Nawr yw’r foment i droi’r uchelgais honno yn weithredu.