Cyd-ddatganiad | Cynnal effaith gymunedol yng Nghymru trwy gyfnod pontio cyllidol a newid gwleidyddol

11 Mawrth 2026

Mae mudiadau gwirfoddol, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol yn rhan greiddiol o seilwaith cymdeithasol ac economaidd Cymru. Maen nhw’n darparu gwasanaethau hanfodol, yn creu cyflogaeth leol, yn defnyddio gwirfoddolwyr ac yn rhoi cymorth hanfodol mewn cyfnodau o argyfwng a phontio.

Yn 2025, cyfrannodd y sector gwirfoddol oddeutu £9.1 biliwn at economi Cymru ac arbed o leiaf £1.4 biliwn i wasanaethau cyhoeddus. Mae sector mentrau cymdeithasol Cymru yn parhau i dyfu o ran cryfder, graddfa ac effaith, a chyda mwy na 3,100 o fusnesau cymdeithasol bellach yn weithredol ledled y wlad, mae’n cyfrannu hyd at £5.7 biliwn at economi Cymru bob blwyddyn ac yn darparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer pobl a chymunedau. Wrth wraidd yr effaith hon mae seilwaith cymunedol sefydlog a medrus sydd wedi’i ymwreiddio yn yr ardal leol.

Mae’r seilwaith hwnnw mewn perygl sylweddol nawr.

Cyfnod pontio cyllidol sy’n bygwth y capasiti i ddarparu ar gyfer cymunedau

Gyda Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn dod i ben a mecanweithiau newydd fel y Gronfa Twf Lleol a Balchder Bro yn cael eu cyflwyno, mae tirwedd gyllido ranbarthol Cymru yn newid yn sylweddol; mae’n newid sylfaenol yn y ffordd y caiff cyllid ei ddylunio.

Darparodd UKSPF gyllid refeniw sylweddol a alluogodd mudiadau i gadw staff, cynnal gwasanaethau, adeiladu capasiti cymunedol a chyflawni canlyniadau hirdymor. Mewn cyferbyniad, mae’r dirwedd sy’n dod i’r amlwg yn rhoi mwy o bwysau ar fuddsoddiad cyfalaf, gyda llawer llai o ffynonellau clir neu ddibynadwy ar gyfer cymorth refeniw.

I lawer o fudiadau yn y gymuned, mae hyn yn creu anghydbwysedd strwythurol. Gall buddsoddiad cyfalaf fod yn drawsnewidiol, ond heb gyllid refeniw cynaliadwy ar gyfer darparu, staffio, cynnal a chadw ac ymgysylltu â’r gymuned, ni fydd y buddsoddiadau hynny yn cael yr effaith fwriadedig.

Mae perygl go iawn y bydd Cymru yn buddsoddi mewn asedau ffisegol heb gynnal y mudiadau hynny sy’n sicrhau bod yr asedau hynny’n cyflawni gwerth.

Rhoi mwy o bwysau ar sector sydd eisoes yn fregus

Daw’r cyfnod pontio cyllidol hwn ar yr un pryd â chyfnod o bwysau aruthrol. Mae costau cynyddol, prinder o weithwyr, mwy o alw am wasanaethau a llai o wydnwch ariannol – yn dilyn blynyddoedd o ymateb i argyfyngau – wedi gadael llawer o fudiadau’n agored i niwed.

Bydd colli neu darfu ar gyllid refeniw ar hyn o bryd nid yn unig yn arafu cynnydd; bydd yn arwain at staff medrus yn gadael, mudiadau’n lleihau neu’n cau a darpariaeth gymunedol ddibynadwy yn gwaethygu – capasiti sy’n cymryd amser ac arian i’w ail-godi.

Y canlyniad fydd mwy o fwlch rhwng yr hyn a ddisgwylir gan y sector gwirfoddol a’r sector mentrau cymdeithasol a’r hyn y gallant eu cyflawni o ddifrif.

Newid gwleidyddol a phenderfyniadau na ellir eu gohirio

Gyda dyfodiad etholiadau’r Senedd, daw ansicrwydd.

Ar yr un pryd, mae hwn yn gyfle sylweddol i lunio amgylchedd polisi positif ar gyfer y sector gwirfoddol a’r sector mentrau cymdeithasol. Gellir gweld datrysiadau hirdymor i heriau heddiw ym maniffesto ein mudiad, sy’n nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer y sectorau rydym yn eu cefnogi.

Mae’r foment hon yn cyflwyno risg sylweddol a chyfle strategol. Mae angen i Gymru fanteisio ar y cyfle a chymryd camau pwrpasol i sefydlogi a chryfhau capasiti mentrau cymdeithasol, gwirfoddol a chymunedol.

Camau gweithredu sydd eu hangen ar unwaith Rydym yn galw am y mesurau canlynol:

  • Cymorth refeniw pontio i bontio’r bwlch rhwng UKSPF a rhaglenni cyllido newydd fel na fydd gwasanaethau cymunedol hanfodol yn cael eu hamharu
  • Dull mwy cytbwys o edrych ar gyllid cyfalaf a refeniw o fewn rhaglenni fel y Gronfa Twf Lleol a Balchder Bro, gan adlewyrchu realiti gweithredol darpariaeth mentrau cymdeithasol a gwirfoddol.
  • Ymgysylltiad cynnar ac ystyrlon â chyrff y sector wrth ddylunio a gweithredu rhaglenni newydd, cyn cadarnhau modelau cyflenwi.
  • Cynlluniau pontio ac amserlenni clir a hygyrch i alluogi cynlluniau gweithlu cyfrifol a sefydlogrwydd mudiadau.

Mae’r camau hyn yn ymarferol, yn gyraeddadwy ac yn hanfodol i ddiogelu gwerth cyhoeddus a sicrhau bod buddsoddiad newydd yn cael effaith hirdymor, gynaliadwy.

Ein rôl a’n hymrwymiad

Mae Cwmpas ac CGGC yn barod i gefnogi’r cyfnod pontio hwn drwy ddarparu:

  • Dadansoddiad ac argymhellion ar sail tystiolaeth
  • Gwybodaeth amser real, astudiaethau achos, data a mewnwelediadau gan fudiadau ledled Cymru
  • Her adeiladol a datrysiadau ymarferol i liniaru canlyniadau anfwriadol

Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod mentrau cymdeithasol, mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn cael eu cryfhau gan newid yn hytrach na’u hysgwyd ganddo – ac yn parhau i chwarae rhan allweddol mewn llunio a chyflawni canlyniadau positif ledled Cymru.