Bydd etholiad nesaf y Senedd yn cael ei gynnal ym mis Mai, a hwn fydd yr etholiad cyntaf o dan system etholiadol newydd Cymru.
I fentrau cymdeithasol, cydweithredol a chymunedol ledled Cymru, mae’r etholiad hwn yn bwysig. Bydd yn dod â chynrychiolwyr gwleidyddol ac etholaethau newydd ac o bosibl flaenoriaethau polisi newydd.
Bydd deall y newidiadau hyn – ac ymgysylltu â chandidatiaid a gwleidyddion yn gynnar – yn helpu i sicrhau bod y sector busnesau cymdeithasol yn parhau i dyfu ac yn chwarae rôl ganolog wrth adeiladu economi decach a mwy llewyrchus yng Nghymru, ynghyd â chymunedau cryfach a mwy gwydn.
Rydym yn gwybod bod llawer o bobl sy’n gweithio yn y sector mentrau cymdeithasol yn brysur iawn, ac nad oes gan bawb yr amser i gadw i fyny â newidiadau cymhleth i systemau etholiadol. Dyna pam rydym wedi ysgrifennu’r blog hwn i egluro’r prif newidiadau ac i awgrymu rhai camau y gallwch eu cymryd i helpu’r sector i wneud y mwyaf o’r cyfnod hwn.
System Etholiadol Newydd i’r Senedd
Bydd etholiad 2026 yn cael ei gynnal o dan system etholiadol gyfrannol newydd. Yn hytrach na’r gymysgedd bresennol o seddi etholaethol a rhanbarthol, bydd Cymru yn symud i system newydd gyda:
- 16 o etholaethau mawr
- 6 Aelod o’r Senedd (ASau) yn cael eu hethol ym mhob etholaeth
- 96 Aelod o’r Senedd i gyd
Bydd pob Aelod o’r Senedd yn cael ei ethol drwy gynrychiolaeth gyfrannol gan ddefnyddio dull D’Hondt. Bydd pleidleiswyr yn pleidleisio dros restr plaid, gyda phob unigolyn yn cael un bleidlais. Wedyn caiff y pleidleisiau eu cyfrif a’r seddi eu dyrannu i’r pleidiau mewn ffordd gyfrannol. Gallwch darllen mwy am hyn yma.
Mae hyn yn golygu y bydd pob etholaeth yn dychwelyd tîm o chwe Aelod o’r Senedd, sy’n debygol o gynrychioli sawl plaid wleidyddol. Nid oes angen i bleidiau ennill mwyafrif y bleidlais i gael eu hethol – dim ond digon o bleidleisiau i sicrhau sedd.
Ar yr un pryd, mae siâp a maint yr etholaethau yn newid hefyd. Gallwch ganfod ym mha un o’r etholaethau newydd y mae eich sefydliad wedi’i leoli yma:
https://constituency.senedd.wales/
Pam Mae Hyn yn Bwysig i’r Sector Busnesau Cymdeithasol
Bydd y system newydd yn dod â newid gwleidyddol sylweddol. Yn gyntaf, bydd nifer yr Aelodau o’r Senedd yn cynyddu o 60 i 96. Bydd y capasiti ychwanegol hwn yn rhoi mwy o amser i Aelodau o’r Senedd ar gyfer ymgysylltu â chymunedau a datblygu polisi.
Yn ail, disgwylir nifer sylweddol o wleidyddion newydd eu hethol, hyd yn oed heb newid mawr yn y canlyniadau gwleidyddol. I’r sector mentrau cymdeithasol a chydweithredol, mae hyn yn creu her ac yn gyfle.
Efallai na fydd llawer o’r Aelodau newydd yn gyfarwydd â:
- maint y sector busnesau cymdeithasol yng Nghymru
- yr amrywiaeth o fodelau busnes, gan gynnwys cydweithfeydd, cwmnïau cymdeithasol, busnesau sy’n eiddo i weithwyr a mentrau cymunedol
- yr effaith economaidd a chymdeithasol y mae’r sefydliadau hyn yn ei chael ar gymunedau ledled Cymru
Bydd sicrhau bod cynrychiolwyr newydd yn deall y modelau hyn – a’r rôl y gallant ei chwarae wrth gefnogi twf economaidd, adeiladu cyfoeth cymunedol ac arloesi ym maes gwasanaethau cyhoeddus – yn bwysig iawn.
Ar yr un pryd, gall mentrau cymdeithasol sy’n seiliedig yn y gymuned gynnig rhywbeth gwerthfawr iawn i Aelodau o’r Senedd newydd. Maent wrth galon eu cymunedau ac yn gallu helpu cynrychiolwyr etholedig i ddeall materion lleol ac ymgysylltu â phobl yn eu hardaloedd.
Y Rôl y Gall Busnesau Cymdeithasol ei Chwarae
Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o helpu cynrychiolwyr etholedig i ddeall y sector yw dangos iddynt beth sy’n digwydd yn ymarferol.
Rydym yn annog busnesau cymdeithasol ledled Cymru i ystyried:
- gwahodd ymgeiswyr i ymweld â’ch sefydliad yn ystod yr ymgyrch etholiadol
- cynnal ymweliadau i Aelodau newydd o’r Senedd ar ôl yr etholiad
- rhannu straeon am yr effaith y mae eich sefydliad yn ei chael yn eich cymuned
- annog y bobl rydych yn gweithio gyda nhw i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd
Gall gweld mentrau cymdeithasol a chydweithredu ar waith fod yn llawer mwy pwerus na darllen amdanynt mewn papur polisi.
Yn Cwmpas, byddwn yn ysgrifennu at bob Aelod newydd o’r Senedd ar ôl yr etholiad i gyflwyno’r sector busnesau cymdeithasol a thynnu sylw at ei gyfraniad i economi a chymunedau Cymru.
Fodd bynnag, bydd ymgysylltu lleol bob amser yn cael yr effaith fwyaf. Os hoffai eich sefydliad gael cymorth i drefnu ymweliad gyda chandidatiaid neu Aelodau o’r Senedd, byddem yn hapus iawn i helpu i hwyluso hynny.
Mae Maniffestos yn Dechrau Cael eu Cyhoeddi
Mae pleidiau gwleidyddol hefyd wedi dechrau cyhoeddi eu maniffestos ar gyfer etholiad Senedd 2026. Mae’r dogfennau hyn yn nodi beth mae pleidiau’n gobeithio ei gyflawni os byddant yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru.
Rydym yn annog sefydliadau ledled y sector busnesau cymdeithasol i:
- ddarllen y maniffestos wrth iddynt gael eu cyhoeddi
- ystyried sut y gallai’r polisïau effeithio ar eich sefydliad a’ch cymuned
- trafod y materion hyn gyda chandidatiaid lleol
Pan fydd holl faniffestos y pleidiau wedi’u cyhoeddi, bydd Cwmpas yn cyhoeddi dadansoddiad yn eu cymharu, gan ganolbwyntio’n benodol ar yr hyn y maent yn ei olygu i fentrau cymdeithasol, cydweithfeydd a’r ecosystem busnesau cymdeithasol ehangach yng Nghymru.
Cyfle i’r Sector
Bydd etholiad 2026 yn foment bwysig i ddemocratiaeth yng Nghymru.
Gyda system etholiadol newydd, Senedd fwy a llawer o gynrychiolwyr newydd, mae cyfle gwirioneddol i sicrhau bod modelau busnes amrywiol – gan gynnwys cydweithfeydd a mentrau cymdeithasol – yn cael eu deall a’u cefnogi wrth galon llunio polisïau yng Nghymru.
Drwy ymgysylltu’n gynnar â chandidatiaid ac Aelodau o’r Senedd yn y dyfodol, gall y sector busnesau cymdeithasol helpu i siapio’r sgwrs am sut y dylai economi Gymreig decach a mwy cynhwysol edrych.