Gwneud y mwyaf o gymorth lles gyda The Llama Sanctuary, Sir Benfro

19 Tachwedd 2025

Mae sylfaenydd The Llama Sanctuary, Matt Yorke, yn credu iddo ddod yn ymwybodol o lamas am y tro cyntaf wrth wylio cartŵn Tintin yn ei ieuenctid, pan ddywedodd rhywun: “Edrychwch, nifer o ddynion â lamas”, a “meddyliodd mai dyna’r peth mwyaf chwerthinllyd a glywodd erioed”.

Yna aeth ar daith gerdded gyda lamas tua 15 mlynedd yn ôl.
“Roedd yn ymlaciol iawn.

“Mae lamas ar lefel y llygaid pan fyddwch chi’n cerdded gyda nhw. Roedd cael anifail deallus mawr wrth ymyl fy mhen yn teimlo fel profiad eithaf agos, a rhoddodd uchelgais i mi fyw gydag ychydig o lamas, un diwrnod.”

Mae cefndir Matt mewn seicoleg a TG. Fe wnaeth colli ei olwg mewn un llygad beri “ailasesiad canol oed o’m blaenoriaethau”, felly penderfynodd symud yn ôl i Gymru i fod yn agosach at ei deulu. Agorodd hefyd fudd dir llai costus.

“Efallai bod lamas yn edrych ychydig yn chwerthinllyd, ond waw, mae’r anifeiliaid hyn yn anhygoel. Maen nhw’n ddoniol, yn gyfriniol, yn fonheddig, yn urddasol, yn
anarferol, hyd yn oed ychydig yn rhyfedd.

“Nid yw’n ymwneud â’u hymddangosiad yn unig – mae’n ymwneud â’r ffordd maen nhw’n rhyngweithio.

“Cyn belled â bod lamas yn cael eu magu yn y ffordd iawn, mewn buchesi lle maen nhw’n dysgu oddi wrth eu rhieni a’u cyfoedion, maen nhw’n barchus iawn, ac maen
nhw’n hyfryd i fod o’u cwmpas.”

I ddechrau, roedd Matt yn cadw lamas dim ond oherwydd ei fod yn eu hoffi, ond yn fuan gofynnodd pobl ddod i’w gweld.

O’r dechrau cynnar hwn, tyfodd ei fusnes cerdded lamas yn organig. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, gofynnodd Cymdeithas Lamas Prydain iddo fod yn gyfarwyddwr ailgartrefu lamas iddynt. Mae Matt wedi bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer ailgartrefu ac achub lamas yn y DU am y 7 mlynedd diwethaf. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi gweld mwy a mwy o lamas yn dod ato ag angen cartrefi newydd.

Yn 2023, cysylltwyd â Matt i ailgartrefu 130 o lamas yr oedd disgwyl iddynt gael eu lladd. Nid oedd ganddo ddigon o le i ddod â nhw i gyd i’w fferm, ond ar y funud ola’, ar ôl llawer o alwadau ffôn gwyllt a heriau logistaidd, llwyddodd i ailgartrefu’r mwyafrif i gartrefi profiadol eraill trwy rwydwaith lamas bach y DU, ond nid oedd yn hawdd.

Daeth yr ychydig rai oedd yn weddill i fyw gyda Matt.

O’r profiad hwn, roedd Matt yn gwybod bod angen rhagor o dir ychwanegol arno, felly petai senario tebyg yn digwydd yn y dyfodol, byddai’n gallu darparu cartref yn awtomatig i unrhyw lama mewn angen – dros dro neu hirdymor – heb beryglu unrhyw anifeiliaid yn gorfod mynd i’w lladd. O hynny, tyfodd yr hedyn ar gyfer The Llama Sanctuary, a ddaeth yn elusen gofrestredig ym mis Chwefror 2025.

“Yr heriau mwyaf oedd cael gafael ar ddigon o dir, a chofrestru fel elusen. Roedd gen i lawer o brofiad yn y sector cyhoeddus a phreifat, ond dim yn y trydydd sector.

“Rhywbryd ar hyd y ffordd, cysylltais â Cwmpas. Fe wnaeth fy ymgynghorydd busnes, Serena, fy helpu i ddewis y strwythur sefydliadol mwyaf priodol, a daeth yn amlwg yn gyflym mai statws elusen gofrestredig fyddai’r ffordd orau o godi’r symiau enfawr o arian fyddai ei angen.

“Yn ddiweddar, gofynnodd gŵr bonheddig o ganolbarth Cymru am help i ailgartrefu ei 40 o lamas. Yn gyfnewid, rhoddodd swm chwe ffigwr i’n helpu i brynu ychydig o dir – ond gyda chost uchel tir, nid oedd hynny’n ddigon o hyd. Yn ffodus, mae’r gymuned lamas yn hael iawn, ac rydym yn ceisio cyllid ychwanegol i dalu costau’r pryniant.

Rydyn ni’n gobeithio ein bod ni bellach wedi dod o hyd i’r eiddo sydd ei angen arnom i ehangu.”

Wrth i’r Llama Sanctuary barhau i chwilio am ffyrdd i sicrhau’r lle ychwanegol sydd ei angen, mae Matt yn awyddus i ehangu’r elusen i gefnogi iechyd meddwl a lles gan ddefnyddio’r model presgripsiynu cymdeithasol.

“Mae lamas yn anifeiliaid sensitif, goddefgar, cyffyrddadwy iawn. Maent yn cael eu defnyddio fwyfwy mewn gwaith therapi. Mae gweld yr effaith y maent wedi’i chael ar bobl sydd â gofynion dysgu ychwanegol neu’r rheiny ar y sbectrwm awtistig wedi agor fy llygaid i’r posibiliadau.

“Er mai’r prif amcan yw ailgartrefu lamas, a sicrhau bod ganddynt fywydau diogel a hapus, rwyf hefyd eisiau gwneud yr anifeiliaid hardd hyn yn hygyrch i bobl a hyrwyddo’r cyfleoedd anfeddygol ar gyfer cymorth iechyd meddwl y maent mor wych yn ei ddarparu.”

Mae Matt wedi bod yn gweithio gyda chymunedau lleol, gan gynnwys sgowtiaid a grwpiau dementia ledled gorllewin Cymru.

“Rwy’n teimlo ein bod ni ond yn crafu’r wyneb: nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod amdanom ni eto, ond mae gennym ni gymaint i’w gynnig.”

Mae Matt yn dweud wrthyf yn dyner a gofalus am ferch awtistig a ymwelodd â’r noddfa.

“Roedd ei mam yn bryderus am sut roedd hi’n mynd i ymateb, ond fe wnes i ei sicrhau bod y lamas y byddem yn eu defnyddio yn wydn iawn. Aethom am dro gyda fy llama tawelaf, ond am awr gyfan, ni oedd yn fodlon dod yn agos ato. Yna cerddodd ataf a chymryd gafael ar y rhaff arwain. Roedd fel pe bai bwlb golau wedi’i oleuo’n sydyn.

“Roedd gweld ei hymateb yn deimladwy iawn. Doedd hi ddim eisiau gadael fynd.

“Agorodd hynny fy llygaid i’r posibiliadau. Ceffylau, cŵn, a lamas: mae’n ymddangos eu bod nhw i gyd yn gwybod. Mae ganddyn nhw’r ddealltwriaeth ysgafn, anfeirniadol honno sy’n adeiladu cysylltiadau.”

Mae Matt yn dweud wrthyf am ei hoff lama, Max.

“Mae Max wastad wedi bod yn anhygoel – mae gen i gysylltiad arbennig ag ef. Rydyn ni’n cysylltu.

“Ef oedd un o fy lamas cyntaf. Roedd yn ifanc iawn ac yn fach iawn pan welais ef gyntaf. Roeddwn i’n ymweld â ffrind yn Nyfnaint pan ddechreuodd fy nilyn ar draws y cae – a dyna ni, cysylltiad wedi’i wneud.

“Roedd yn arfer bod yn un o fy lamas cerdded gorau hyd nes iddo ddod yn enwog.

Mae wedi cael ei gyfweld gan seicolegydd anifeiliaid ac Eamonn Holmes, ac mae hyd yn oed wedi ymddangos mewn sesiwn tynnu lluniau ffasiwn. Erbyn hyn, mae‘n dipyn o difa sy’n hoffi camerâu a bod ar y teledu.”

Breuddwyd Matt yw creu canolfan rhagoriaeth i lamas yma yng Nghymru.

“Ar hyn o bryd, mae ymweliadau â’r lamas trwy apwyntiad, ond fy uchelgais yw creu canolfan ymwelwyr galw heibio, lle gall pobl ddod i gael picnic a darganfod popeth am lamas.

“Rydym eisoes yn cadw archif o gylchgronau lamas ar gyfer Cymdeithas Lamas Prydain – amyrwiaeth enfawr o erthyglau sy’n dyddio’n ôl i’r 1980au.

“Llafur cariad yw hwn, ac yn bendant does dim mynd yn ôl. Mae’r lamas a minnau’n elwa o rwydwaith gwirfoddol anhygoel, angerddol, ond yn ddelfrydol hoffwn dalu pobl
a chreu cyfleoedd economaidd lleol.

“Mae lamas yn bendant wedi’u tanddatblygu o safbwynt cymorth lles.”

Mae heriau o’n blaenau, ond gobaith,hefyd. Beth fyddai Matt yn ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried sefydlu menter gymdeithasol
neu fusnes pwrpasol?

“Yn bendant, ewch amdani, ond cofiwch fod rhaid i chi dalu’r biliau. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gallu gwneud y pethau sylfaenol yn gyntaf. Wedi dweud hynny,
mae yna ffordd ymlaen bob amser.

“Rwy’n cael gwneud gwahaniaeth i bobl. Rwy’n cael gweld y budd yn eu bywydau. Rwy’n mynd i’r gwely yn flinedig, ond yn teimlo’n fodlon. Efallai nad wyf yn cael
gwyliau, ond nid wyf yn teimlo’r angen: dyma beth rydw i wrth fy modd yn ei wneud.”