Mae gan Gymru y potensial i adeiladu economi a chymunedau sy’n gweithio i bawb – gan gynhyrchu ffyniant tra’n cryfhau’r cymunedau rydym yn byw ynddynt. Nid oes rhaid i ddatblygiad economaidd ddod ar draul pobl na lleoedd. Trwy fuddsoddi mewn busnesau cymdeithasol a chydweithredol, gallwn greu ffyniant sy’n para: twf sy’n tynnu pobl allan o dlodi, yn adeiladu asedau ar y cyd, ac yn cryfhau’r gwasanaethau a’r sefydliadau yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt.
Mae’r modelau hyn yn gwreiddio tegwch a chynhwysiant ac yn ymwneud â sicrhau ffyniant gwirioneddol a mesuradwy mewn ffyrdd sy’n cadw cyfoeth yn cylchredeg yn lleol, yn creu swyddi da, ac yn rhoi cyfran i bobl yn eu dyfodol.
Mae economi gydweithredol lewyrchus yn golygu gwneud elw – ond mae hefyd yn ymwneud â defnyddio’r elw i adeiladu trefi a dinasoedd cryfach, cymunedau gwledig mwy gwydn, a chreu cyfleoedd i bawb gyfrannu a manteisio. Mae’n golygu gwasanaethau cynhwysol dan arweiniad y gymuned sy’n darparu canlyniadau gwell.Mae’n golygu bod gwasanaethau’n cael eu darparu dan arweiniad y gymuned mewn ffordd gynhwysol, wedi’u gwreiddio yn y lle ac wedi’u llunio gan ddealltwriaeth ddofn o anghenion, diwylliant a chryfderau lleol.
Mae Cwmpas yn credu y gall Llywodraeth Cymru nesaf gymryd camau dewr a phragmataidd i droi’r weledigaeth hon yn realiti. Mae ein maniffesto’n nodi 10 cam clir a phragmataidd a allai helpu Cymru i dyfu mewn ffordd gynhwysol a chynaliadwy – gan greu cymunedau cryfach, busnesau mwy gwydn, a dyfodol tegach.
Cliciwch yma i ddarllen ein maniffesto senedd 2026
10 galwad i weithredu i Lywodraeth Cymru nesaf
- Buddsoddi mewn cymorth arbenigol a chreu Hwb Ddatblygu Cydweithredol i nodi, cefnogi a chwyddo busnesau cydweithredol, dan berchnogaeth gweithwyr a chymdeithasol newydd ar draws sectorau allweddol, a dyblu maint y sector busnesau dan berchnogaeth gweithwyr yng Nghymru.
- Hyrwyddo perchnogaeth gymunedol o asedau fel rhan allweddol o strategaeth genedlaethol drwy gyflwyno deddfau newydd, darparu cyllid i gymunedau brynu’r asedau hyn, a chynnig cyngor arbenigol.
- Grymuso mentrau cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau iechyd dan arweiniad cymunedau drwy symleiddio’r ffordd y dyfernir contractau a rhoi mwy o werth ar effaith gymdeithasol.
- Datblygu a gweithredu rhaglen i gefnogi ac ehangu modelau gofal cymdeithasol cydweithredol a chymdeithasol gan gynnwys buddsoddi mewn hyfforddiant a chefnogaeth leol, annog cydweithio, a sicrhau bod gwerthoedd cydweithredol yn cael eu gwreiddio yn ein polisïau gofal cymdeithasol a’r ffordd y dyfernir contractau.
- Buddsoddi mewn busnesau cymdeithasol fel grym gyrru pontio Cymru i sero-net i alluogi creu swyddi cynhwysol, o safon uchel, a gyrru ffyniant lleol.
- Ymrwymo i sicrhau Cymru wirioneddol gynhwysol yn ddigidol drwy ehangu peilotau SOBD i bob math o gartref ar draws Cymru, hwyluso eu gweithrediad gan sefydliadau yn ein cymunedau, a rhoi cynhwysiant wrth galon y trawsnewidiad digidol.
- Cryfhau democratiaeth Cymru trwy gynulliadau dinasyddion, cyd-ddylunio gwasanaethau a buddsoddi mewn llythrennedd cyfryngol i roi rôl uniongyrchol a ystyrlon i bobl wrth lunio polisïau a deddfwriaeth allweddol y llywodraeth.
- Buddsoddi yn ehangu modelau tai fforddiadwy dan arweiniad cymunedau drwy gynnig benthyciadau hyblyg, hawdd eu cyrchu i gychwyn prosiectau, a chreu fframweithiau polisi cefnogol sy’n grymuso cymunedau lleol i arwain ar atebion tai.
- Darparu cefnogaeth benodol i gydweithfeydd a busnesau cymdeithasol Cymraeg newydd a phresennol dan arweiniad cymunedau drwy gyllid, hyfforddiant, a chefnogaeth i brosiectau sy’n cryfhau’r Gymraeg mewn cymunedau lleol.
- Gwreiddio egwyddorion cydweithredol yng nghanol datblygiad economaidd gwledig a helpu i adeiladu system fwyd wydn drwy nodi cyfleoedd ar gyfer perchnogaeth gymunedol a busnesau cymdeithasol mewn cymunedau gwledig a chefnogi mwy o gydweithfeydd yn y sector bwyd.
Pam mae hyn yn bwysig nawr
Bydd Llywodraeth Cymru nesaf yn dod i rym ar adeg o her a chyfle. Mae cymunedau ar draws Cymru dan bwysau gan tlodi gwreiddiedig, cgostau cynyddol, gwasanaethau dan straen, a’r effeithiau newid hinsawdd. Eto i gyd, yn ein gwaith, rydym yn gweld rhywbeth ysbrydoledig: parodrwydd i gofleidio dulliau newydd sy’n rhoi pobl a lleoedd wrth galon ein heconomi.
Mae consensws cynyddol mai dyma’r ffordd ymlaen. Mae’r Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd dulliau cydweithredol a dan arweiniad cymunedau. Mae Oxfam a Sefydliad Materion Cymreig wedi galw am economi llesiant wedi’i hadeiladu ar yr un egwyddorion; ac mae Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo i ddyblu maint y sector cydweithredol.
Dyma foment Cymru i weithredu. Drwy roi ar waith y seilwaith a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar gydweithfeydd, mentrau cymdeithasol a sefydliadau dan arweiniad cymunedau i dyfu, mae gan Lywodraeth Cymru nesaf y cyfle i gyflawni newid parhaol.
Gweithio gyda ni
Mae maniffesto Cwmpas yn nodi gweledigaeth ddewr a phragmataidd ar gyfer ffyniant cynhwysol a chynaliadwy yng Nghymru. Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf byddwn yn cyhoeddi mwy o adroddiadau a phapurau ar fanylion y galwadau hyn, pam eu bod yn angenrheidiol a’r effaith y byddant yn ei chael.
Rydym yn gwahodd llunwyr polisïau, partneriaid a chymunedau i ymgysylltu â’n cynigion a gweithio gyda ni i’w troi’n realiti. Gyda’n gilydd, gallwn wneud Cymru’n genedl decach, wyrddach a mwy ffyniannus – wedi’i hadeiladu ar rym cydweithredu.