Dileu Elw o’r Sector Gofal Plant

Dileu Elw o’r Sector Gofal Plant
happy friends with disability socializing through internet
Y Rhaglen Gymorth ar gyfer darparwyr gofal yn y sector preifat
Rydym wedi gweithio gyda Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant (4Cs) yn ystod y blynyddoedd diwethaf i archwilio sut y gallai darparwyr gofal yn y sector breifat ail-sefydlu eu model busnes i un o'r modelau nid-er-elw a ddiffinnir o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025. Daeth yn amlwg bod angen adnoddau ychwanegol i ddarparu cefnogaeth benodol ar gyfer y busnesau a gaiff eu heffeithio gan y newid a'r heriau, er mwyn asesu a yw ail-sefydlu fel model nid-er-elw yn opsiwn ymarferol iddynt. At y diben hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi grant i ni i gefnogi darparwyr gofal preifat sydd eisiau ystyried eu hopsiynau i ail-sefydlu eu busnes yn fanylach.

Y pecyn cymorth

Bydd nifer o gamau i’r broses gan gynnwys pan fo’n briodol:

  •  Trafodaeth er mwyn dod i adnabod eich busnes, eich rôl o fewn y busnes a’r hyn a ddymunir gennych pe baech yn ail-sefydlu;
  • Gwerthusiad annibynnol a theg o’ch busnes a chyngor treth arbenigol a wneir
    gan gwmni cyfrifyddu sydd â phrofiad addas.
  • Manylion pellach am y pedwar model nid-er-elw a ganiateir a chymorth i ystyried yr un mwyaf addas ar gyfer eich amgylchiadau;
  •  Archwilio hyfywedd a’r opsiynau ariannu ar gyfer ail sefydlu / prynu asedau gan fenter nid-er-elw “newydd”;
  • Cynllun o’r camau i gymryd ar gyfer sefydlu a dechrau gweithredu eich model dewisol;
  • Cyngor, canllawiau a hyfforddiant ar faterion llywodraethu megis recriwtio bwrdd, polisïau a gweithdrefnau ac ati;
  •  Cymorth i gofrestru eich ffurf gyfreithiol ddewisol os ydych am fwrw ymlaen â’r broses.

O’n profiad blaenorol o gynnal prosiect peilot gyda nifer fach o ddarparwyr, rydym yn gwbl ymwybodol y bydd pob busnes yn wynebu heriau unigol a phenodol, a’n bwriad yw i weithio gyda chi i geisio goresgyn y rhain gorau bosib.

Bydd gennym fodd i gysylltu’n uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru ac AGC (CIW) hefyd a bydd hyn yn ein galluogi i ofyn cwestiynau penodol, yn gyfrinachol, a cheisio atebion am faterion sy’n anhysbys i ni i gyd ar hyn o bryd.

I gloi

Nid ydym am geisio “gwthio” unrhyw un i lawr llwybr nad yw’n ymarferol nac yn apelgar i berchnogion. Ein nod yw darparu cefnogaeth a chyngor ystyrlon i fusnesau sydd yn ystyried ail-sefydlu fel model nider-elw ac sydd eisiau deall eu hopsiynau a’r heriau penodol yn well.

Yn y pen draw, rydym yn gobeithio gallu gweithio ochr yn ochr â
phartneriaid fel 4Cs a AGC i osgoi colli busnesau da yng Nghymru sy’n
darparu gwasanaethau sefydlog a chadarnhaol i blant.

Mae’r sefyllfa yn newydd i bob un ohonom a byddwn yn gwneud ein
gorau i’ch helpu i oresgyn yr heriau os yw hyn o ddiddordeb i chi.
Os hoffech glywed gennym neu os oes gennych gwestiynau pellach
am y rhaglen gymorth, mae croeso i chi gysylltu â ni:
branwen.ellis@cwmpas.coop / rhys.williams@cwmpas.coop .

A photo of Rhys Williams
Ein Cynghorwyr - Rhys Williams
Mae gan Rhys arbenigedd mewn cyllid a chyfrifeg ac mae wedi gweithio gyda Cwmpas, un o asiantaethau datblygu mwyaf y DU, ers dros 5 mlynedd. Mae ganddo hefyd 12 mlynedd o brofiad pellach yn rhoi cyngor a chefnogaeth broffesiynol i sefydliadau nid-er-elw yn y drydydd sector. Mae Rhys yn wybyddus iawn am Entrepreneuriaeth Gymdeithasol ac mae'n eiriolwr angerddol dros 'Fusnes sy'n Seiliedig ar Werthoedd' yng Nghymru.
A photo of Branwen Ellis
Ein Cynghorwyr - Branwen Ellis
Gyda 18 mlynedd o brofiad yn Cwmpas, mae Branwen yn gynghorydd uchel ei pharch yn y maes sefydlu a thyfu mentrau cymdeithasol. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae wedi ehangu ei harbenigedd i gefnogi perchnogion busnesau bach a chanolig yn y sector breifat i gynllunio ar gyfer eu holyniaeth. Mae’n cynghori perchnogion ar eu strategaeth ymadael, llywodraethu corfforaethol a mesur effeithiau amgylcheddol/cymdeithasol (ESG).