Blog Baldilocks: Gall taclo heriau cymdeithasol a darganfod eich pwrpas newid eich bywyd

9 Gorffennaf 2025

Dioddefodd Dan Newman, Cyfarwyddwr Baldilocks, ymosodiad treisgar pan oedd yn 18 oed, a datblygodd alopesia yn fuan wedi hynny. 

O’r trawma a’r adfyd hwnnw y daeth gobaith a chefnogaeth ar ffurf Baldilocks. 

Mae alopesia yn achosi rhywun i golli gwallt dros y corff cyfan, gan effeithio nid yn unig ar hunanddelwedd, ond heriau ymarferol o ganlyniad, hefyd. Mae’n glefyd hunanimíwn, sy’n aml yn cael ei sbarduno gan drawma neu system nerfol sydd wedi’i gorlwytho. 

Mae gan oddeutu 160 miliwn o bobl o gwmpas y byd, yn wrywaidd ac yn fenywaidd, alopesia – 100,000 yng Nghymru. Gall aros gyda chi am oes, neu ymddangos ar hap. 

Dywed Dan: 

“Mae Baldilocks yn ffordd o ailfframio adfyd, dod â gwen i wynebau pobl eraill, ac i ailgysylltu â lleoedd mae pobl fel fi yn teimlo’n bod ni’n cael eu cau allan ohonynt. 

“Mae alopesia yn gyflwr pan na fyddwch chi, efallai, am i unrhyw un eich gweld chi – ond pan gewch eich gweld gydag empathi a dealltwriaeth, rydych chi’n teimlo’n fwy o berson, ac yn llai alltud. Rydych chi’n teimlo bod gofal drosoch chi.” 

Wrth gerdded heibio i siop barbwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, esbonia Dan, “Meddyliais i am dorri fy ngwallt a chael fy eillio, y tywelion poeth a’r tywelion oer, yr agweddau cymdeithasol a lles sy’n rhan o brofiad siop barbwr. 

“Roeddwn i’n teimlo fel ci’r tu allan i’r cigydd. Byddwn i wedi bod wrth fy modd yno, ond does gen i ddim lle yno mwyach. 

“Ni ddylid cymryd yn ganiataol rym y cysylltiad dynol sydd i’w ennill o brofiadau cymdeithasol ac ardaloedd cymunedol fel salonau a siopau barbwr. 

“Rydym ni yma i helpu pobl drwy eu hadfyd gydag ychydig o drugaredd a hiwmor: po fwyaf rydym ni’n cysylltu fel pobl, y mwyaf rydym ar ein hennill.”  

Mae Baldilocks yn helpu pobl i gael eu ‘GLOW’ yn ôl – eu twf, eu cariad, eu hunoliaeth a’u lles (growth, love, one-ness, wellness). 

Mae’n fecanwaith i helpu pobl gyrraedd sefyllfa o dderbyn.  

Mae sawl ffordd o ryngweithio: 

Trwy nwyddau – bathodynnau pin, capiau, hwdis a chrysau T. 

Trwy negeseuon mewn digwyddiadau lles corfforaethol a gweithleoedd. 

Trwy ddylino gan therapyddion cyflenwol hyfforddedig. 

Trwy ddigwyddiadau siarad cyhoeddus ysgogiadol, y mae angen talu amdanynt. 

Aiff Dan yn ei flaen: 

“Gwasanaethu pobl eraill yw fy ffordd i fod o wasanaeth i fy hunan iau. Nid y dyn moel roeddwn i eisiau bod. Roeddwn i am dyfu fy ngwallt, dewis fy steil gwallt. Doeddwn i ddim eisiau cael fy atgoffa bob dydd o’r trawma es i drwyddo.”  

Sefydlodd Dan Baldilocks ar ôl mynd i weithdy busnesau newydd wedi’i ariannu trwy gynllun y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Mehefin 2024. 

“Mae cefnogaeth gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Cwmpas wedi bod yn rhan hanfodol o’m taith, gan ddechrau o brofiad anhygoel pan wnes i a fy ngwraig, Kathryn, ddewis yr union un tri cherdyn gwerthoedd, ar hap ac yn annibynnol (sef cysylltiad, empathi a hiwmor), i gyngor arbenigol a gawsom ar ymgodymu â’r tirlun mentrau cymdeithasol, a’r agweddau ar ddatblygu busnes sy’n gweithio i chi ac i’r bobl rydych chi’n cael effaith arnynt.  

“Fe wnaeth ein ymgynghorydd busnes yn Cwmpas, sef Martin Downes, ofyn cwestiynau i ni, taflu goleuni ar wybodaeth doedden ni ddim hyd yn sylweddoli bod ei hangen arnon ni, ein croesawu ni, ein cefnogi a’n trin gydag urddas.  

“Hefyd, fe wnaeth Cwmpas ein hannog ni i droi at rwydweithiau cymunedol. Mae dechrau arni’n gallu bod yn waith caled ac mae’n hawdd datgysylltu a mynd i deimlo’n unig. Ond pan fyddwch chi’n cysylltu â phobl o natur debyg, rydych chi’n cael egni o’r newydd. Mae rhaid i chi fod yn barod i ddangos eich wyneb, dysgu a thyfu, dyna i gyd.  

“Heb Cwmpas a chyllid SPF, gallem fod wedi colli llawer o amser ac arian. 

“Fel entrepreneur cymdeithasol newydd, mae’n bwysig deall eich bod chi’n gallu cysoni gwneud arian da â helpu pobl. 

“Y gamp yw dod o hyd i rywbeth sydd wir yn golygu rhywbeth i chi. Gallech chi ddechrau gydag arbenigedd, cynnyrch neu wasanaeth, ond does dim o’i le ar fentro i faes newydd a chwilio am wasanaethau ategol sy’n cyfateb i’ch gwerthoedd chi. 

“Gallaf chwarae fy rhan i o ran dangos y tir canol buddiol rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat: y gwerth cymdeithasol sy’n dod o ddatblygu cynnyrch a gwasanaeth sy’n tarddu o bwrpas. 

“Mae gan ein rhanbarth gymaint o botensial i fanteisio ar ein diwylliant gwydn a’n diwylliant o gymuned i feithrin cenhedlaeth o bobl sy’n ysgwyddo gwerthoedd positifiaeth a budd i’n gilydd. 

“Mae’n gwbl bosibl masnacheiddio’r stwff gwych a rhoi Cymru yn y safle rydym ni’n haeddu bod ynddo.  

“Gall mentrau cymdeithasol fod yn weddnewidiol i economi’r dyfodol. Mae gennym gyfle, yma yng Nghymru, i harneisio profiadau ein cenhedlaeth fel eu bod yn rhywbeth cynaliadwy yn economaidd. 

“Ewch gyda’ch pwrpas i ddechrau, a bydd popeth arall yn dilyn.”