Adeiladu cymdeithas fwy cyfartal

Gweledigaeth ar gyfer dyfodol tai dan arweiniad y gymuned yng Nghymru

Adeiladu cymdeithas fwy cyfartal

Mae Cwmpas yn falch o wasanaethu fel yr Hwb Alluogi ar gyfer tai dan arweiniad y gymuned yng Nghymru, gan hyrwyddo lleisiau cymunedau a chefnogi twf y sector hanfodol hwn. Am dros ddegawd, rydym wedi gweithio ochr yn ochr â chymunedau, cyllidwyr, a llunwyr polisi i godi ymwybyddiaeth, chwalu rhwystrau, darparu arweiniad arbenigol, a rhannu dysgu gwerthfawr ledled Cymru, y DU, a thu hwnt.

Mae ein dogfen weledigaeth yn gwneud cyfres o argymhellion i alluogi tai dan arweiniad y gymuned i ffynnu’n wirioneddol ledled Cymru.