Pobl ifanc sy’n gadael gofal yn dod o hyd i gryfder gyda’i gilydd yn Sunflower Lounge

9 Ebrill 2025

Ar ôl cael plentyndod trawmatig, goresgynnodd Helen Davies syndrom y ffugiwr a hunanamheuaeth i sefydlu Sunflower Lounge a chreu lle diogel i bobl ifanc sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd a phobl sy’n gadael gofal.

Mae Sunflower Lounge yn fenter gymdeithasol yng Nghastell-nedd sy’n meithrin pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, pobl ifanc sy’n gadael gofal a phobl ifanc sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd.

Ar ôl tyfu i fyny mewn amgylchedd anodd a thrawmatig, mae Helen wedi ymddieithrio oddi wrth ei theulu. Yn ei harddegau, roedd ei ffrind agosaf yn byw mewn cartref plant. Yn ddirybudd, un diwrnod cafodd ei symud yn sydyn i gartref newydd mewn sir wahanol. Ni wnaeth Helen ei gweld na siarad â hi eto.

Roedd yr anghyfiawnder a’r unigrwydd yn llosgi am ddeng mlynedd ar hugain, a daeth Helen yn benderfynol o wneud yn siŵr nad yw pobl ifanc yn dioddef ar eu pennau eu hunain, a bod ganddynt bobl i’w hyrwyddo, i wrando arnynt, ac i’w caru.

Felly, sefydlodd Helen Sunflower Lounge.

Mae’r lefel gywir o ddealltwriaeth a chefnogaeth unigryw ar goll i lawer o bobl ifanc mewn sefyllfaoedd trawmatig. Mae’r plant a’r bobl ifanc hyn angen ac yn haeddu mwy.

“Roedd pobl yn dweud fy mod i’n wallgof yn ceisio sefydlu Sunflower Lounge – canolfan lle gall pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd (fel y fi ifanc) a phobl ifanc sy’n gadael gofal ddysgu sgiliau mewn amgylchedd diogel, dibynadwy, meithrin cyfeillgarwch, annibyniaeth, a hunan-barch, ac o’r diwedd teimlo eu bod yn perthyn – ond fe wnes i hynny, beth bynnag!

“Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae gennym ni ein hadeilad bach ein hunain, pobl ifanc o bob rhan o dde a gorllewin Cymru sydd eisiau cymryd rhan, a gwe o oedolion dibynadwy sy’n fy nghefnogi i, y Lounge, a’r bobl ifanc.

“Yn Sunflower Lounge, mae ein prif waith yn ymwneud â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal wrth iddynt symud allan o’r system ofal. Does dim terfyn oedran uchaf i fod yn rhan o’n llwyth. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl ifanc yn ne Cymru sydd angen ein cefnogaeth yn 18 oed a hŷn. Dyma’r nod pwysicaf i ni: pan fydd gwasanaethau eraill yn camu i ffwrdd, rydyn ni’n camu i’r adwy.”

Mae llawer o’r bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal y mae Helen yn gweithio gyda nhw wedi wynebu cyfnodau anodd iawn wrth iddynt symud allan o ofal yn ystod Covid, yn aml yn cael eu lletya mewn ardaloedd nad oeddent yn gyfarwydd â nhw, heb fawr o system gymorth ac ychydig o sgiliau i’w helpu i fyw’n annibynnol.

Roedd eu profiadau o frwydrau iechyd meddwl, unigrwydd, ac arunigedd wrth syrffio soffa a brwydro i oroesi yn golygu bod Sunflower Lounge yn adnodd hanfodol.

Mae Cwmpas wedi cefnogi Helen a Sunflower Lounge mewn amryw feysydd busnes: o gyngor ar sefydlu a rhedeg menter gymdeithasol, i gymorth gyda cheisiadau am gyllid, cyngor ar gynhwysiant digidol, a chefnogaeth gan dîm ‘Cymunedau’n Creu Cartrefi’ Cwmpas.

Dysgodd Helen sut i fesur gwerth effaith gymdeithasol mewn digwyddiad Cwmpas a gynhaliwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae hi wedi cyfrifo gwerth effaith gymdeithasol Sunflower Lounge yn £25.93 am bob £1 a fuddsoddwyd (ffigurau ar gael).

Mae Sunflower Lounge yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu sgiliau cyflogadwyedd, sgiliau bywyd a sgiliau cymdeithasol, a meithrin cyfeillgarwch dibynadwy a rhwydweithiau cymorth lle mae unigolion yn tyfu gyda’i gilydd i ennill annibyniaeth mewn amgylchedd diogel.

Yn berson ifanc, dywedwyd wrth Helen na fyddai’n cyflawni unrhyw beth yn ei bywyd.

“Mae wedi bod yn broses iacháu anhygoel, gan oresgyn syndrom y ffugiwr a’r gred fy mod i’n dda i ddim.

“Mae wedi dangos i mi fod trin pobl gyda chariad, parch, a charedigrwydd yn llawer mwy boddhaus ac effeithiol na bod yn gaethwas i arian.

“Mae sefydliadau y gallwch fynd atynt am help pan fydd pethau’n mynd o’i le, ond gall y cyfnodau mwyaf unig, mwyaf arunig fod pan fydd pethau’n dechrau gwella, pan fyddwch chi wedi cyflawni rhywbeth neu fod gennych chi rhywbeth i’w ddathlu, ond heb neb i’w ffonio, neb i ddweud wrthynt, neb a fyddai’n hapus iawn i chi.

“Mae’r Lounge yn lle diogel lle mae pobl yn gallu chwerthin, crio, bod yn hapus neu’n drist, heb gael eu barnu.

“Mae ein sgôr gwerth effaith gymdeithasol yn rhoi arwydd da o’r effaith economaidd a chymdeithasol y mae Sunflower Lounge yn ei chynnig, a pha mor werthfawr ac angenrheidiol yw hi i’n llwyth bach, ac i Gymru.

“Fy mantra yw ‘Dewch o hyd i’ch llwyth’ a ‘Cryfach gyda’n gilydd’. Ar y diwrnodau caled dw i’n gorffwys ond dw i ddim yn rhoi’r gorau iddi. Weddill yr amser, dw i’n wfftio’r siarad negyddol ac yn cloddio’n ddwfn, yn gwthio am newid, ac yn gwneud yn siŵr pan rydych chi’n rhan o’r llwyth, dydych chi byth ar eich pen eich hun.”

Mae Sunflower Lounge yn gweithio gyda phobl ifanc o naw mlwydd oed a hŷn ledled Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Caerdydd a Phowys, gan weithio gydag awdurdodau lleol, sefydliadau eiriolaeth a phrifysgolion ledled Cymru i ddarparu hyfforddiant, mentora ac ymyriadau i gefnogi pobl ifanc.

Roedd Helen yn un o dri a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar gyfer y wobr ‘Menywod mewn Menter Gymdeithasol’ yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn 2022, ac enillodd Wobr Dinasyddion Arglwydd Faer Castell-nedd Port Talbot 2024 am ‘Iechyd a Lles’. Mae Helen a phobl ifanc Sunflower Lounge wedi ymddangos ar The One Show, BBC Radio 4, a Radio Wales.