Busnesau Gogledd Cymru yn hybu gwytnwch lleol a boddhad swyddi drwy berchnogaeth gweithwyr

18 Mawrth 2025

Ers dros 30 mlynedd, mae Cwmpas wedi cefnogi busnesau i drosglwyddo i berchnogaeth gweithwyr – o Lofa’r Tŵr, a ddaeth y cwmni mwyaf ym mherchnogaeth gweithwyr yng Nghymru ym mis Ionawr 1995, i Dafydd Hardy, yr asiantaeth tai gyntaf ym mherchnogaeth gweithwyr yng Nghymru, a drosglwyddodd ddiwedd 2024.

Mae sawl busnes yng ngogledd Cymru wedi trosglwyddo i berchnogaeth gweithwyr, neu’n gweithio tuag at berchnogaeth gweithwyr, a bellach mae Cwmpas yn dathlu Gwynedd fel y Sir Perchnogaeth Gweithwyr gyntaf yng Nghymru.

Cefnogir cymorth PG Cwmpas gan Gyngor Gwynedd. Mae’r prosiect hwn wedi derbyn arian gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF).

Perchnogaeth gweithwyr yw un o’r modelau olyniaeth busnes sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae’n gosod gweithwyr wrth wraidd penderfyniadau corfforaethol a phroffidioldeb. Mae’n hybu gwytnwch a phroffidioldeb busnes, ac yn adeiladu ymrwymiad cymunedol ac ymrwymiad gweithwyr.

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddyblu nifer y busnesau ym mherchnogaeth gweithwyr yng Nghymru erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Gyda chefnogaeth gan dîm Perchnogaeth Gweithwyr Cwmpas, cyflawnwyd y targed hwnnw ddwy flynedd yn gynt na’r disgwyl.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi a’r Gymuned:

“Mae Cyngor Gwynedd yn deall bod perchnogaeth gweithwyr yn ffordd wych o sicrhau bod swyddi o ansawdd uchel sy’n talu cyflogau teg ar gael yn lleol, gan alluogi pobl Gwynedd i gefnogi eu hunain a’u teuluoedd.

“Rwy’n ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i dwf busnesau ym mherchnogaeth gweithwyr yng Nghymru. Bydd Gwynedd yn parhau i arwain drwy esiampl drwy groesawu’r model profedig hwn, a meithrin amgylchedd sy’n cefnogi busnesau ym mherchnogaeth gweithwyr er budd pawb.”

Dywedodd Nicola Mehegan, rheolwr prosiect Perchnogaeth Gweithwyr yn Cwmpas:

“Rydym yn falch iawn o fod wedi cydnabod Gwynedd fel y Sir Perchnogaeth Gweithwyr gyntaf yng Nghymru.

“Mae perchnogaeth gweithwyr yn cynnig ateb olyniaeth hirdymor i fusnesau ffyniannus ac uchelgeisiol, gan helpu i wreiddio busnesau a swyddi pwysig yn ein cymunedau. Mae gan Wynedd record falch o gefnogi perchnogaeth gweithwyr, a bydd ein gwaith parhaus gyda Chyngor Gwynedd yn sicrhau bod mwy o fentrau preifat yn defnyddio perchnogaeth gweithwyr fel ffordd wahanol o wneud busnes”.

Yn 2024, gyda changhennau ym Mangor a Chaernarfon yn ogystal ag Ynys Môn a Chonwy, Dafydd Hardy oedd yr asiantaeth gwerthu tai gyntaf ym mherchnogaeth gweithwyr yng Nghymru, gyda chefnogaeth Cyngor Gwynedd a’u cyllid SPF, gan ddiogelu 44 o swyddi.

Dywedodd y cyn-gyd-berchennog Dafydd Hardy:

“Mae ein staff bob amser wedi bod wrth wraidd ein llwyddiant. Mae’r symudiad hwn i Ymddiriedolaeth Perchnogaeth Gweithwyr yn cydnabod eu gwaith caled ac yn rhoi cyfle i bawb ddatblygu’r busnes ymhellach wrth gadw ei ddiwylliant a’i annibyniaeth unigryw yng Nghymru, a darparu gwasanaeth eithriadol i’n cleientiaid. Mae hefyd yn sicrhau y bydd y busnes yn aros yn rhan o’r gymuned leol am flynyddoedd lawer i ddod. Rwy’n gyffrous iawn am ddyfodol y brand a’n partneriaid.”

Dywedodd ymgynghorydd perchnogaeth gweithwyr arbenigol, Mike Williams:

“Mae Dafydd Hardy Estate Agency yn fusnes adnabyddus ac uchel ei barch yn y rhanbarth, ar ôl gwasanaethu’r gymuned ers 1992. Gan fod y cyn-berchnogion wedi penderfynu symud ymlaen erbyn hyn, mae’n newyddion gwych bod dyfodol y cwmni yn nwylo diogel y gweithwyr, gan ganiatáu i’r busnes barhau heb ymyrraeth a diogelu cymaint o swyddi lleol yng Ngogledd Cymru.”

Daeth Waterco, sef cwmni peirianneg dŵr ac amgylcheddol o Ruthun, ym mherchnogaeth ei weithwyr yn 2023, gan ddiogelu swyddi 60 o weithwyr.

Mae’r cwmni’n rheoli draenio a pherygl llifogydd, gan helpu cwmnïau dŵr i wella’r cyflenwad a lleihau gollyngiadau mewn rhwydweithiau dŵr, yn ogystal ag uwchraddio seilwaith carthffosydd sy’n heneiddio.

Gyda’i fwriad ar ymddeol, gwerthodd y sylfaenydd Peter Jones ei gyfranddaliad mwyafrifol i ymddiriedolaeth perchnogaeth gweithwyr.

Dywedodd Peter:

“Roedd perchnogaeth gweithwyr yn ffordd o sicrhau y gallem gadw ein tîm gwych, parhau i fuddsoddi yn y busnes, a chadw dyfodol y cwmni yma yng ngogledd Cymru.”

Mae’r cwmni ymgynghori BIC Innovation, a oedd wedi’i leoli’n wreiddiol yng Ngwynedd ac sydd bellach wedi’i leoli yn Ynys Môn a Phen-y-bont ar Ogwr, wedi cynyddu bedair gwaith ei weithlu ers dod yn fusnes ym mherchnogaeth gweithwyr yn 2018.

Dywedodd y cyfarwyddwr sefydlu, Huw Watkins, fod y newid i berchnogaeth gweithwyr wedi gweld staff yn tynnu at ei gilydd.

“Mae pob gweithiwr wedi buddsoddi yn nyfodol y cwmni ac yn gweithio mor galed i sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau i lywio ein ffordd drwy newidiadau economaidd enfawr.

“Rwy’n credu bod ein model perchnogaeth wedi ein helpu i greu diwylliant o fod yn agored ac yn dryloyw, cydweithio a chyfraniad, ein helpu i recriwtio a chadw’r doniau gorau, a rhoi pwynt arwyddocaol o wahaniaeth i ni yn y farchnad.”

Dywedodd Branwen Ellis, ymgynghorydd perchnogaeth gweithwyr arbenigol ar gyfer Cwmpas:

“Mae perchnogaeth gweithwyr yn ffordd hirdymor, gynaliadwy o redeg busnes ffyniannus ac uchelgeisiol. Mae’n ffordd wych o gynnal arbenigedd gan weithlu sydd eisoes wedi buddsoddi, gan roi perchnogaeth dros y busnes i weithwyr a chyfran wirioneddol yn ei lwyddiant.”

Mae gwasanaeth Perchnogaeth Gweithwyr Cymru gan Cwmpas yn rhan o Busnes Cymdeithasol Cymru, ac yn rhan o deulu Busnes Cymru, ill dau yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Ar Ddiwrnod Perchnogaeth Gweithwyr ym mis Mehefin y llynedd, dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg:

“Mae perchnogaeth gweithwyr yn darparu nifer o fanteision i weithwyr a busnesau fel ei gilydd, gyda thystiolaeth yn dangos bod busnesau sy’n eiddo i weithwyr yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy gwydn. Mae’r rhain yn lleoedd sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau, gan ddarparu swyddi hirdymor o safon yn yr ardal leol.”

Darganfyddwch fwy am gefnogaeth Perchnogaeth Gweithwyr Cwmpas yma.