‘Pont Digidol’ yn pontio’r bwlch digidol ar gyfer preswylwyr Tai Gogledd Cymru

25 Chwefror 2025

Mewn sesiwn cynhwysiant digidol ddiweddar yn Llys y Coed, Llanfairfechan yng Nghonwy, Gogledd Cymru, bu dwy ffrind 92 mlwydd oed sy’n breswylwyr Tai Gogledd Cymru, Glenys a Brenda, yn sgwrsio ac yn chwerthin wrth iddyn nhw rannu pennod YouTube o Blue Peter yn y 1960au gyda’r grŵp.

Mae gan Glenys ffôn clyfar ac mae’n dipyn o arbenigwraig yn tynnu lluniau. Mae Brenda yn berchen ar ffôn symudol syml, ond doedd y naill na’r llall ohonyn nhw erioed wedi defnyddio iPad nac wedi bod ar y rhyngrwyd o’r blaen.

Yn ystod y sesiwn, dysgodd Glenys sut i chwilio ar-lein am gerddoriaeth gan ei hoff ganwr, Bruce Springsteen.

Bu Brenda yn pori i weld ei hoff gyrchfannau gwyliau ar-lein.

Mae prosiect ‘Pont Digidol’ yn brosiect peilot newydd, sy’n helpu preswylwyr Tai Gogledd Cymru i feithrin gwybodaeth ddigidol a magu hyder digidol, a phontio’r bwlch digidol.

Y cyfranogwr hynaf yw David, sy’n 98 mlwydd oed. Dywedodd:

“Mae gen i Kindle a gliniadur, ond mi ddysgais i am bethau yn ystod y sesiwn nad oeddwn i erioed wedi clywed amdanyn nhw o’r blaen. “

Mae cynhwysiant digidol yn effeithio ar fynediad at wasanaethau fel addysg, cyflogaeth ac iechyd, lle mae gwybodaeth am hunangymorth ac apiau ar gyfer trefnu apwyntiadau bron i gyd ar-lein.

Mae Tai Gogledd Cymru yn un o ddwy gymdeithas dai yng Nghymru y dyfarnwyd cyllid iddynt gan Lywodraeth Cymru i gynnal prosiect peilot Y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol (MDLS).

Mae’r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yn ddiffiniad sy’n amlinellu’r sgiliau a’r cynhyrchion gofynnol sydd eu hangen i wneud yn siŵr nad yw pobl yn cael eu gadael ar ôl yn ein cymdeithas ddigidol.

Cafodd ei ddatblygu gan Brifysgolion Lerpwl, Prifysgol Loughborough, Cwmpas a’r Good Things Foundation.

Mae hanfodion y Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol yn cynnwys mynediad band eang dibynadwy, dyfeisiau digidol priodol, sgiliau digidol sylfaenol, a’r gallu i gyfathrebu, cysylltu, ac ymgysylltu’n ddiogel a gyda hyder.

Dywedodd Claire Shiland, Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn Tai Gogledd Cymru:

“Mae hwn yn gyfle gwych i ni asesu a dysgu am anghenion ein preswylwyr a’n cymuned tai cymdeithasol yng Ngogledd Cymru.

“Maen nhw’n dweud wrthon ni eu bod nhw’n awyddus i fagu hyder a defnyddio’r cyfleoedd digidol hynny, nid yn unig fel preswylwyr ond yn bersonol ar gyfer cyllid ar-lein, cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, trefnu apwyntiadau, ac yn hanfodol, gallu gwneud hynny mewn ffordd sy’n eu cadw nhw’n ddiogel ar-lein.

“Mae’r prosiect hwn nid yn unig am ddarparu dyfeisiau neu fynediad i’r rhyngrwyd. Mae ynglŷn â grymuso unigolion i ymgysylltu â thechnoleg ddigidol yn ddiogel, yn hyderus, ac mewn ffordd sy’n gwella ansawdd eu bywyd.”

Arweiniwyd y sesiwn gan Nick, Ymgynghorydd Hyfforddi a Datblygu Cymunedau Digidol Cymru (DCW) Cwmpas.

“Mae’n bwysig i bobl fod yn hyderus ar-lein, gan fod y rhan fwyaf o’r gwasanaethau rydym ni’n eu defnyddio neu sydd eu hangen arnom ni bellach ar-lein – pethau fel Credyd Pensiwn a cheisiadau pàs bws, hyd yn oed. Mae’r cyfan yn ymwneud â grymuso a dewis, a chael yr hyder i lywio’r rhyngrwyd.”

Mae cynhwysiant digidol yn fater dynol, yn rhan hanfodol o greu cymdeithas gyfartal a ffyniannus.

Parhaodd Claire Shiland:

“Mae’n hanfodol pontio’r bwlch digidol yng Nghymru. Mae ystadegau’n dangos bod tua 7% o oedolion yng Nghymru ‘wedi eu hallgau’n ddigidol’.

“Bydd y cynllun hwn yn ein helpu ni i olrhain cynnydd preswylwyr Tai Gogledd Cymru sy’n cymryd rhan. Byddwn ni’n gallu adnabod ble mae’r angen mwyaf.”

Bydd cyllid y Prosiect Digidol yn cefnogi grŵp amrywiol o 25 o aelwydydd tai cymdeithasol, gan ei gwneud yn haws i breswylwyr fynd ar-lein, a’u helpu i gael mynediad at adnoddau, sgiliau, a chyngor digidol hanfodol.