Datganiad gan Cwmpas – Grŵp Cynghori Economaidd Cymru

18 Rhagfyr 2024

Cyhoeddodd  Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, grŵp cynghori economaidd newydd sy’n dod â busnes, llywodraeth a’r byd academaidd at ei gilydd fel cyfle i “ailgynnau gwreiddiau diwydiannol balch Cymru”. Dyma ymateb Cwmpas.

Rydym yn croesawu bwriad Ysgrifennydd Gwladol Cymru i bartneru ag ystod lawn o fusnesau yng Nghymru, ac uchelgais ei grŵp cynghori economaidd newydd i “manteisio ar dalent, uchelgais a chreadigrwydd gorau Cymru””. 

Fodd bynnag, ni fydd rhan gyfan o dalent orau Cymru – ein sector menter gymdeithasol deinamig ac arloesol, sy’n brysur yn creu economi decach, wyrddach, yn adfywio cymunedau, ac yn tyfu economi Cymru – yn cael ei chynrychioli ar y grŵp cynghori fel y mae. 

Byddem wrth ein bodd i helpu Llafur y DU i gyflawni ei hymrwymiadau maniffesto i gefnogi modelau busnes amrywiol a dyblu maint y sector cydweithredol, a gallwn rannu enghreifftiau o fusnesau yng Nghymru sy’n datrys heriau mwyaf cymdeithas ac yn rhoi arian ym mhocedi pobl. 

Ysgrifennydd Gwladol, mae Cwmpas yn barod i weithio gyda chi a phartneriaid i lunio’r blaenoriaethau ar gyfer economi yng Nghymru sy’n gweithio’n well i bawb.

Darllenwch yr erthygl wreiddiol gan Business News Wales