Plannwyd 450 o goed i ddathlu 40 mlynedd o gefnogi economïau lleol yng Nghymru
I ddathlu 40 mlynedd o gefnogi datblygiad miloedd o fentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, a busnesau sy’n eiddo i weithwyr ledled Cymru, mae Cwmpas wedi plannu coetir o 450 o goed yn Llanfyrnach, Sir Benfro.
Mae’r coetir, a adwaenir fel Coed Cwmpas, yn cynnwys 450 o lasbrennau a roddwyd gan Lywodraeth Cymru a Coed Cadw (y Woodland Trust yng Nghymru). Bydd y coed yn helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd ac yn cyfrannu at Goedwig Genedlaethol Cymru, cynllun gan Lywodraeth Cymru sy’n ceisio creu ardaloedd o goetir newydd, ac adfer coetiroedd hynafol Cymru.
Dywedodd Glenn Bowen, Prif Weithredwr Dros Dro Cwmpas…
“Rydyn ni yn Cwmpas mor falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni yn y 40 mlynedd rydym wedi bod yn cefnogi busnesau, elusennau ac unigolion yng Nghymru. Rydym wedi arwain miloedd o bobl i greu busnesau cymdeithasol arloesol sydd o fudd i’w cymunedau, yr amgylchedd, a’u heconomïau lleol.
“Trwy blannu Coed Cwmpas i ddathlu’r garreg filltir hon, rydyn ni’n dangos ein hymrwymiad i barhau i sicrhau newid er gwell ledled Cymru, a’n hymroddiad i wneud Cymru’n genedl wyrddach a mwy cyfeillgar i’r hinsawdd.”
Sefydlwyd Cwmpas yn 1982 gan TUC Cymru fel Canolfan Cydweithredol cymru, gyda’r nod o ddarparu cymorth busnes i gwmnïau cydweithredol yng Nghymru.
Yn dilyn ein sefydliad yn 1982, helpodd Cwmpas i sefydlu’r unedau credyd cyntaf yng Nghymru a’r DU, chwaraeodd ran allweddol ym mhryniant Glofa’r Tŵr gan weithwyr, a chynyddu’r cyflenwad o dai cydweithredol yng Nghymru.
Yn fwy diweddar, mae Cwmpas wedi hyrwyddo ymagwedd fwy cydweithredol at ofal cymdeithasol, wedi helpu i leihau allgáu digidol i 7% yn unig, wedi darparu cymorth busnes i gannoedd o fusnesau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol ac wedi cynyddu nifer y busnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr yn ddramatig.
Bellach yn gweithio fel asiantaeth ddatblygu ar gyfer newid cadarnhaol, rydym yn canolbwyntio ar adeiladu economi decach, wyrddach a chymdeithas fwy cyfartal, lle mae pobl a’r blaned yn dod yn gyntaf.