Trawsnewid Gofal Cymdeithasol – sut i “Fwyta’r Eliffant”
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn derbyn bod angen inni wella Gofal Cymdeithasol, hyd yn oed, neu efallai’n arbennig, y staff sy’n brwydro mor galed i gadw’r platiau i droi. Mae’n ymddangos yn rhy anodd, yn rhy ddrud, yn rhy gymhleth ac yn rhy bwysig i fentro amharu ar y gwasanaethau presennol i wthio’r trawsnewidiad cywir ymlaen. Ac oes unrhyw un hyd yn oed yn gwybod sut olwg fyddai ar system well a sut i wneud hynny?
OES! Gwyddom ni!!
Mae Cwmpas wedi treulio’r ychydig flynyddoedd diwethaf yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, chydlynwyr a Comisiynwyr Gofal Cymdeithasol Awdurdodau Lleol, rhoddwyr gofal a’r bobl a’r teuluoedd sy’n derbyn gofal. Rydym wedi datblygu dull cydweithredol ac ystwyth o arwain sefydliadau drwy’r cylch gwerthuso, ailgynllunio a darparu gwasanaethau.
Gellir defnyddio egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y Ddeddf) i greu sail resymegol a blociau adeiladu ymarferol, i drawsnewid y gwasanaeth. Canlyniadau i bobl yw’r sylfaen sy’n cynnal ac yn llywio pedwar cam y broses, (Deall egwyddorion y Ddeddf, Gwerthuso, Ailgynllunio a Darparu Gwasanaethau.
Lawrlwythwch ein canllaw cam wrth gam
Bydd ein canllaw pum cam yn dangos i chi sut i ddefnyddio egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i gynyddu modelau darparu gwerth cymdeithasol.
Yn ei araith gyntaf fel Prif Weinidog, fe wnaeth Boris Johnson addo trwsio’r argyfwng mewn gofal cymdeithasol unwaith ac am byth. Dilynodd mewn traddodiad o addewidion mor bell yn ôl â Tony Blair a ddywedodd yn ôl yn 1997 nad oedd am i’n plant dyfu i fyny ‘mewn gwlad lle mai’r unig ffordd y gall pensiynwyr gael gofal hirdymor yw trwy werthu eu cartref’. Yn y cyfamser, mae papurau gwyn, papurau gwyrdd ac ymgynghoriadau wedi’u cynhyrchu ond hyd yn hyn, nid yw’n ymddangos bod y system wedi gwella’n sylweddol.
Mae staff gofal cymdeithasol wedi blino ar system sy’n chwyddo ac yn wyliadwrus o arbedion effeithlonrwydd neu welliannau y disgwylir iddynt eu cyflawni. Mae’n ddealladwy eu bod yn chwilio am awgrymiadau ymarferol a thystiolaeth o fywyd go iawn o sut y gall pethau newid, yn hytrach na rhethreg.
Mae Cwmpas wedi bod yn gweithio gyda thimau Gofal Cymdeithasol yng Nghaerdydd a Gorllewin Cymru i gyflwyno newid gofal cymdeithasol sy’n cyflawni yn erbyn y Ddeddf. Mae gennym fethodoleg sy’n adeiladu ar yr asedau yn y lleoliad, yn ymgysylltu â phobl, timau gofal cymdeithasol, sefydliadau a busnesau lleol, gan weithio i gynhyrchu canlyniadau cadarnhaol i bawb sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol. Mae gennym enghreifftiau go iawn o gydgynhyrchu yn gweithio’n ymarferol; pobl a gefnogir i gynyddu eu hyder, eu sgiliau a’u hannibyniaeth; cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a gwaith a grëwyd; a gwerth cymdeithasol ac ariannol a gynhyrchir.
Gellir bwyta unrhyw fwystfil sylweddol os byddwch chi’n ei dorri’n ddarnau hylaw, hawdd eu treulio. Os oes angen help arnoch i fwyta’ch eliffant, cysylltwch â ni. info@cwmpas.coop
[1] https://www.gov.uk/government/speeches/boris-johnsons-first-speech-as-prime-minister-24-july-2019