Mae’r Hac Caredigrwydd™ fel arfer yn sesiwn diwrnod cyfan sy’n dod â phobl ynghyd i ddatblygu syniadau newydd i ddatrys problemau sy’n bwysig iddynt. Gallai hyn fod o fewn cymunedau, lleoliadau addysgol, busnesau, cyrff cyhoeddus neu unrhyw fath o sefydliad.
Sut allech chi ddefnyddio'r Hac Caredigrwydd™?
Mae problem neu fater yn cael ei nodi ar gyfer yr Hac Caredigrwydd™ a chytunir ar amcanion. Gwahoddir pobl sy’n poeni am y mater neu’r broblem i’r digwyddiad a rhoddir y wybodaeth berthnasol iddynt i’w hysbrydoli a’u hysbysu cyn y sesiwn.
Diwrnod o sesiynau ymarferol yn canolbwyntio ar gydweithio a chynhyrchu syniadau ffres. Gweithio mewn timau i nodi’r problemau, meddwl yn greadigol a dod ag ef at ei gilydd i greu cyflwyniad anghystadleuol.
Ar ôl yr Hac Caredigrwydd™, bydd y tîm yn ysgrifennu canfyddiadau’r diwrnod, yn manylu ar y camau nesaf i’w gweithredu ac yn cyfeirio at ymgysylltu pellach er mwyn gwireddu’r syniadau.
Bydd y tîm yn ysgrifennu canfyddiadau’r diwrnod, yn manylu ar y camau nesaf ar gyfer gweithredu ac yn cyfeirio at ymgysylltu pellach er mwyn gwireddu’r syniadau.
Yng Nghwmpas mae gennym dîm angerddol, ymroddedig a phrofiadol sy’n cyflwyno’r Hac Caredigrwydd™ ac a fydd yn eich cefnogi trwy bob cam o’r broses.
Martin yw crëwr y Dechrau Rhywbeth Da a’r Hac Caredigrwydd™ ac mae’n Gymrawd o’r RSA. Mae gan Martin gefndir mewn busnes, gwaith cymunedol, a chyhoeddi, ac mae’n awdur ac yn siaradwr cyhoeddus. Ef yw Ymgynghorydd Dysgu a Datblygu Cwmpas. Cyn ymuno â Chwmpas roedd Martin yn rhedeg asiantaeth greadigol, a bu’n gweithio gydag unigolion a sefydliadau gan wneud argraff er da.
Mae Paul wedi gweithio yn y Trydydd Sector yng Nghymru ers 20 mlynedd, gan weithio ar lawr gwlad ac ar ddull Cymru gyfan i gefnogi cymunedau i gael bywoliaethau mwy cynaliadwy gan ddefnyddio dulliau seiliedig ar asedau. Ar ôl sefydlu dau fusnes yn y gorffennol, mae Paul yn eiriolwr brwd dros wreiddio menter, arloesedd a diwylliant digidol i greu cymdeithas well.
Sarah yw Cyfarwyddwr Masnachol Cwmpas ac mae wedi gweithio’n flaenorol fel prif reolwr mewn Llywodraeth Leol ac Uwch Ddarlithydd/Ymchwilydd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, gan arwain nifer o brosiectau ymchwil Ewropeaidd ym maes menter gymdeithasol a datblygu cymunedol.
Mae gan Gwenllian 18 mlynedd o brofiad fel marchnatwr masnachol strategol yn y sector preifat a’r trydydd sector. Mae Gwenllian yn angerddol am ddarparu gwerth cwsmer a gwerth cymdeithasol trwy gydweithio a chynhyrchu syniadau creadigol.
Trwy weithio’n agos gydag arweinwyr cymdeithasol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, mae Gwenllian yn mwynhau gweld cyfleoedd a rhoi newid cadarnhaol ar waith.
Cysylltwch â’n tîm heddiw i ddarganfod mwy am yr Hac Caredigrwydd™