Datganiad o fwriad: Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae’r datganiad hwn yn amlinellu ein huchelgais i ddod yn sefydliad mwy teg, amrywiol a chynhwysol, sydd wedi ymrwymo i werthfawrogi profiad bywyd a herio’r ffordd sefydledig o feddwl.
Pam?
Rydym yn byw mewn cymdeithas sy’n llawn anghydraddoldebau, gormes a gwahaniaethu, ac mae rhai ohonynt wedi’u gwreiddio mor ddwfn fel prin y mae llawer ohonom yn sylwi arnynt. Mae Cwmpas bob amser wedi ystyried Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant o ddifrif, ond rydym bellach yn cymryd camau i ddyfnhau ein dealltwriaeth o sut mae cymdeithas yn creu a pharhau â braint a gormes.
Mae’r datganiad hwn yn amlinellu ein huchelgais i ddod yn sefydliad mwy teg, amrywiol a chynhwysol, sydd wedi ymrwymo i werthfawrogi profiad bywyd a herio’r ffordd sefydledig o feddwl. Rydym wedi ymrwymo i Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ei ystyr ehangaf, fel egwyddor allweddol cyfiawnder cymdeithasol, sy’n sail i bopeth rydym yn ei wneud a phwy ydym. Ymdrechwn i fod yn gynhwysol a herio anghydraddoldeb, gwahaniaethu a rhagfarn o bob math.
Mae’r datganiad hwn yn cyd-fynd â darpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010 sy’n amddiffyn grwpiau penodol rhag gwahaniaethu ar sail eu nodwedd warchodedig:
- Oedran
- Rhywedd
- Hil
- Anabledd
- Crefydd neu gred
- Cyfeiriadedd rhywiol
- Ailbennu Rhywedd
- Priodas neu bartneriaeth sifil
- Beichiogrwydd a mamolaeth
Beth ydym ni wedi’i wneud hyd yma?
Ein cam cyntaf oedd comisiynu sefydliad allanol i gynnal archwiliad tegwch i ni a chynnig argymhellion ynglŷn â sut gallem wella. Ymarfer hir oedd hwn a oedd yn cynnwys dadansoddiad manwl o’n polisïau a’n dogfennau canllaw, holiaduron a chyfweliadau â gweithwyr ac aelodau’r bwrdd.
Yn seiliedig ar ganfyddiadau’r archwiliad, ei argymhellion a’n trafodaethau mewnol ein hunain, rydym wedi gweithredu yn y ffyrdd canlynol:
- Rydym wedi adolygu ein dogfennau polisi a chanllaw a’u diwygio yng ngoleuni’r cyngor rydym wedi’i gael.
- Rydym wedi gwneud newidiadau i’r ffordd rydym yn ysgrifennu ein swydd-ddisgrifiadau a sut/ble rydym yn targedu recriwtio.
- Rydym wedi sefydlu grŵp llywio Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewnol.
- Rydym wedi rhoi Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd ein strategaeth, gan ei wneud yn un o’n nodau trawsbynciol a gosod targedau uchelgeisiol.
- Rydym wedi dylunio ac yn darparu cyfres o sesiynau hyfforddi manwl i’r holl weithwyr ar themâu cydraddoldeb anabledd; cydraddoldeb LHDTCRh+; niwrowahaniaeth a gwrth-hiliaeth.
- Rydym yn gweithio gyda’n bwrdd i ddyfnhau dealltwriaeth o Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac ymrwymiad iddo.
- Rydym wedi datblygu cynllun gweithredu Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant y mae pob un ohonom yn Cwmpas yn gyfrifol amdano ac yn ei gyflawni.
- Rydym yn anelu at ymsefydlu gweithredoedd gwrthwahaniaethol rhagweithiol yn y sefydliad a gweithio i ddatblygu gweithlu amrywiol.
- Rydym wedi llofnodi addewid Dim Hiliaeth Cymru, gan addo i “sefyll yn erbyn hiliaeth a hyrwyddo gweithle a chymdeithas fwy cynhwysol a chyfartal sy’n rhoi’r hawl i bob unigolyn yng Nghymru deimlo’n ddiogel a’i fod yn cael ei werthfawrogi a’i gynnwys.”
Beth nesaf?
Wrth i ni edrych tuag at ddyfodol Cwmpas, bydd ein haddewid i hyrwyddo tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn fwy na geiriau llithrig a ysgrifennwyd mewn cynlluniau strategol a dogfennau polisi; yn hytrach, bydd yn ymrwymiad y mae pawb yn y sefydliad yn deall ei fod yn rhan annatod o’u rôl.
Rydym yn gwerthfawrogi ein staff yn fawr ac yn cydnabod bod gan bawb rywbeth i’w gyfrannu at y sgwrs hon. Felly, byddwn yn sicrhau bod cefnogwyr a chynghreiriaid ym mhob rhan o’r sefydliad.
Rydym wedi ymrwymo i bob agwedd ar arferion gwrthormesol a gwrthwahaniaethol. Rydym eisiau bod yn sefydliad nad yw’n esgus cefnogi ond sy’n cymryd camau gweithredol i wneud gwahaniaeth ac ysgogi newid. Mae hyn yn golygu gofyn cwestiynau anghyfforddus ynglŷn â’n prosesau, ein diwylliant a’n hymddygiadau oherwydd, er bod tegwch wastad wedi bod yn hollbwysig i ni, rydym yn gwybod bod gennym fwy i’w wneud. Byddwn yn rhoi sylw gofalus i ofynion Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru ac yn cyfrannu at wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol.
Byddwn yn dryloyw ynglŷn â’n dysgu a’n datblygiad trwy rannu astudiaethau achos a siarad yn agored am ein cynnydd a’n rhwystrau.
Rydym wedi ymrwymo i gyflawni pum nod a fydd yn sail i’n cynllun gweithredu:
- Diwylliant: Bydd pawb yn Cwmpas yn deall bod ymrwymiad i Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn sail i’n holl berthnasoedd â chydweithwyr, cleientiaid a rhanddeiliaid. Dangosir hyn yn ein hymddygiadau pob dydd. Byddwn yn monitro cysondeb ein hymagwedd, gan wirio canlyniadau’n rheolaidd yn erbyn ein cynllun gweithredu a chryfhau polisïau a gweithdrefnau fel y bo’r angen.
- Cydgynhyrchu: Byddwn yn darparu ein gwasanaethau mewn ffordd sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu, gan weithio ar y cyd â phobl sydd â phrofiad bywyd wrth ddylunio ein gwasanaeth. Byddwn yn monitro pwy sy’n defnyddio ein gwasanaethau ac yn gwneud newidiadau os nad yw pobl sy’n cael eu tangynrychioli yn cael atynt.
- Gyrfa: Byddwn yn recriwtio, hurio a datblygu gweithlu amrywiol, uchel ei berfformiad sy’n adlewyrchu’r cleientiaid, y busnesau cymdeithasol a’r sefydliadau trydydd sector rydym yn eu gwasanaethu.
- Cydweithio: Byddwn yn hyrwyddo ac yn annog Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth ymgysylltu ac yn ein partneriaethau – gyda’n cleientiaid, partneriaid, rhanddeiliaid a chynghreiriaid.
- Cyfathrebu: Byddwn yn dangos ein hymrwymiad i Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ein negeseuon mewnol ac allanol. Bydd gweithwyr, cleientiaid a rhanddeiliaid yn deall bod yr ymrwymiad hwn yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
Yn olaf…
Dyma ein maniffesto ar gyfer newid wrth i ni barhau â’n taith tuag at ddod yn sefydliad mwy teg, amrywiol a chynhwysol.
Rydym yn ystyried hyn o ddifrif a byddwn yn dal ein hunain i gyfrif.