Trwy gyngor busnes arbenigol, cefnogaeth i fusnesau cymdeithasol a hybu perchnogaeth gymunedol neu berchnogaeth gan y gweithwyr, rydym yn gweithio i greu dyfodol lle mae mwy o fusnesau’n defnyddio eu helw er gwell a lle gall cymunedau ffynnu trwy fwy o gyfleoedd cyflogaeth a chyfoeth lleol.
Mae ein gwasanaethau cynhwysiant digidol, tai dan arweiniad y gymuned a gofal ataliol yn helpu i leihau anghydraddoldeb iechyd ac ariannol, mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd, gwella iechyd a lles a grymuso cymunedau i lunio eu dyfodol eu hunain a manteisio ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Mae ein rhaglenni dysgu a datblygu yn cefnogi twf y sector a’i arweinwyr yn y dyfodol, ochr yn ochr â’n harbenigedd a’n hamrywiaeth o wasanaethau ymgynghori sydd wedi’u llunio i ysgogi arloesedd trwy gefnogi trawsnewid digidol, gwerth cymdeithasol, cydweithio a chyd-ddylunio, ymchwil, gwerthuso, astudiaethau dichonolrwydd a datblygu polisi.
Sut rydym yn creu effaith
Gall ein tîm cyfeillgar o gynghorwyr gynnig cymorth a chefnogaeth arbenigol ar draws ystod eang o feysydd.


