Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru 2022
Ym mis Hydref eleni bydd Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn dychwelyd fel digwyddiad byw, wyneb yn wyneb yn Arena Abertawe newydd sbon.

Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn rhan o brosiect Busnes Cymdeithasol Cymru (BCC) a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Darperir Busnes Cymdeithasol Cymru gan Cwmpas (enw newydd Canolfan Cydweithredol Cymru) ac mae’n rhan o wasanaeth Busnes Cymru.
Hon fydd 7fed flwyddyn Gwobrau BCC, ac rydym am dynnu sylw, yn fwy nag erioed, at dwf a photensial aruthrol y sector a’i gyfraniad hanfodol i gymunedau ledled Cymru.
Eleni mae yna 10 categori gwobrau i fentrau cymdeithasol ddewis o’u plith, gan gynnwys pedwar categori newydd sy’n adlewyrchu’r ffyrdd y mae mentrau cymdeithasol ac entrepreneuriaid cymdeithasol wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n bywydau yn y 12 mis diwethaf.
Bydd yr holl enillwyr yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng Ngwobrau Menter Gymdeithasol y DU ym mis Rhagfyr.
Categorïau



Categorïau eraill y gall mentrau cymdeithasol eu cynnwys:






Yn agored i unrhyw sefydliad trydydd sector, corff sector cyhoeddus neu fusnes preifat:

Cofrestrwch eich diddordeb
Rydym yn gwahodd mentrau cymdeithasol o bob rhan o Gymru i gofrestru eu diddordeb drwy lenwi’r ffurflen isod. Dewiswch y categorïau y mae gennych ddiddordeb ynddynt, a byddwn yn anfon pecyn cais atoch yn syth i’ch mewnflwch.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Gorffennaf 2022
"(Angenrheidiol)" indicates required fields
Oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn Noddwr Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru?
Os ydych chi’n gweithio i sefydliad y trydydd sector, corff y sector cyhoeddus neu fusnes preifat a’ch bod yn ofni colli allan, peidiwch ag ofni. Mae yna ffordd arall y gallwch chi gymryd rhan ar y daith wobrau ysbrydoledig hon.
Eleni, mae gennym ni amrywiaeth wych o ddewisiadau nawdd i chi eu hystyried o gyn lleied â £500 ar gyfer nawdd seremoni trwodd i’r prif becyn nawdd uchaf un, a mwyaf trawiadol, am swm rhesymol o £3000.
Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yw’r prif ddigwyddiad ar gyfer y sector busnes cymdeithasol yng Nghymru, ac mae bob amser yn denu nifer fawr o gynrychiolwyr, gan gynnwys staff ac aelodau bwrdd y sector busnes cymdeithasol, uwch weision sifil, cyfarwyddwyr awdurdodau lleol a chyfryngwyr cymorth busnes o bob cwr o Gymru.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn noddi neu’n gwybod am sefydliad a allai fod â diddordeb, yna cysylltwch â Mike Erskine, Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus a Digwyddiadau yn Cwmpas: mike.erskine@cwmpas.coop / 07464548058.
Ein noddwyr