Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2023
Fel aelod o Ganolfan Cydweithredol Cymru, fe’ch gwahoddir i fynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni, y byddwn yn ei gynnal ar-lein trwy Zoom ddydd Gwener 29 Medi 2023 am 10yb.

Credwn y gall cwmnïau cydweithredol ac egwyddorion cydweithredol helpu pobl, teuluoedd, cymunedau a busnesau i fod yn gryfach ac yn fwy hyderus. Gallwch gefnogi’r egwyddorion hyn a helpu i ledaenu’r delfrydau hyn trwy gymryd rhan yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Os na allwch ddod i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ond yr hoffech benodi dirprwy i bleidleisio ar eich rhan, cwblhewch y ffurflen ddirprwy isod a’i dychwelyd drwy e-bost at sarah.beal@cwmpas.coop erbyn hanner dydd ar 28 Medi 2023.
Etholiadau i’r Bwrdd
Mae tair swydd wag ar y Bwrdd eleni, ac mae enwebiadau wedi dod i law gan y 3 aelod canlynol:
- Babs Lewis
- Grahame Sturges
- Nigel Keane
Gallwch weld gwybodaeth am bob un o’r enwebeion isod.
Dogfennau
Cliciwch ar y dolenni isod i weld a lawrlwytho pob dogfen:
- Agenda Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2023
- Cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ar 23 Medi 2022
- Datganiadau Ariannol 2022-23 (Lawrlwythwch yr adroddiad)
- Rheolau Cwmpas (yn Saesneg)
- Aelodau sy’n sefyll ar gyfer eu hethol i’r Bwrdd (Darllenwch y bywgraffiadau)
- Ffurflen penodi dirprwy (Lawrlwythwch y ffurflen i fwrw eich pleidlais trwy ddirprwy yn etholiad y Bwrdd)
- Adroddiad ar yr Effaith Cwmpas 2022-23 (Lawrlwythwch yr adroddiad)
- Rhestr o aelodau cymwys
